Torfaen yn cymeradwyo cymorth treth i adawyr gofal

  • Cyhoeddwyd
YsgrifennuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyngor Torfaen wedi pleidleisio o blaid eithrio'r rhai sydd wedi gadael gofal rhag talu treth cyngor.

Dyma'r awdurdod cyntaf yng Nghymru i wneud hyn.

Yr wythnos ddiwethaf cafodd cynlluniau eu datgelu yn Yr Alban i eithrio gadawyr gofal o dan 26 oed, ond pobl ifanc o dan 21 oed fydd yn cael ei heithrio yn Nhorfaen.

Yn Lloegr, mae 33 o gynghorau wedi eithrio'r rhai sydd wedi gadael gofal rhag talu treth cyngor.

Cynghorydd Torfaen, Colette Thomas, gyflwynodd y cynnig mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ddydd Mawrth.

Cafodd ei gymeradwyo yn unfrydol ac fe fydd yn cael ei weithredu o fis Ebrill 2018.

'Grwpiau mwyaf bregus'

O'r 21 cyngor arall a holwyd gan BBC Cymru, dywedodd 13 nad oedden nhw'n cynnig yr eithriad hwn ar hyn o bryd, er bod Cyngor Gwynedd yn ei ystyried. Dyw'r cynghorau eraill ddim wedi ymateb.

Dywedodd Ms Thomas, sy'n gynghorydd Llafur: "Y rhai sydd newydd adael gwasanaeth gofal yr awdurdodau lleol yw grwpiau mwyaf bregus ein cymdeithas.

"Fel rhiant corfforaethol, dyletswydd y cyngor yw cadw pobl yn ddiogel a gwella eu cyfleon mewn bywyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sally Holland eisiau i Gymru ddilyn patrwm Lloegr ac eithrio neu roi mwy o amser i bobl ifanc dalu'r dreth cyngor

Roedd y cynnig yn nodi y dylid eithrio pobl ifanc o dan 21 (ac mewn rhai achosion hyd at 25) sydd newydd adael gofal rhag talu treth cyngor er mwyn sicrhau bod eu llwybr i fyw bywyd oedolion yn un esmwyth, a'u cynorthwyo i reoli eu cyllid eu hunain heb fynd i ddyled.

Mewn adroddiad, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru Sally Holland mai'r bil misol mwyaf sy'n wynebu pobl ifanc sydd newydd adael gofal yw treth cyngor.

Ychwanegodd Ms Holland y dylid ystyried "cynlluniau sydd mewn grym yn Lloegr, fel caniatáu peth amser cychwynnol cyn talu'r bil neu ostwng y swm sy'n ddyledus".

Ymhellach, nododd adroddiad gan Gymdeithas y Plant yn 2016 fod pobl sydd newydd adael gofal i fyw yn annibynnol weithiau yn ei chael hi'n anodd rheoli eu harian am y tro cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

"Ry'n yn cydnabod fod pobl sydd newydd adael gofal yn fregus," medd Anthony Hunt

Un o argymhellion y gymdeithas oedd y dylai'r rhai sydd newydd adael gofal gael eu heithrio rhag talu treth y cyngor nes eu bod yn 25 oed.

Dywedodd arweinydd Torfaen, Anthony Hunt cyn y bleidlais: "Yn amlwg mae'n gyfnod anodd i gynghorau ar y funud, ac felly mae 'na gyfyngder ar yr hyn y gallwn ei wneud ond ry'n ni'n cydnabod fod pobl sydd newydd adael gofal yn fregus ac y mae treth y cyngor yn rhan fawr o'u hincwm.

"Ry'n ni ond yn sôn am 30 o bobl - felly dyw e ddim yn nifer fawr - ac felly mae'n rhywbeth y gallwn ei gyflawni ac mae'n dangos dychymyg."

'Pwnc pwysig'

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn falch bod Cyngor Torfaen yn trafod y pwnc pwysig hwn.

"Mae'r Ysgrifennydd Plant wedi gofyn i'r Gymdeithas Lywodraeth Leol ac awdurdodau lleol i ystyried defnyddio pwerau arbennig i sicrhau nad yw'r sawl sydd newydd adael gofal yn gorfod talu treth y cyngor a hynny heb roi ystyriaeth i amgylchiadau personol.

"Ry'n hefyd wedi cadarnhau y byddwn yn parhau gyda'n Cynllun Gostwng Treth y Cyngor yn 2018-19. Bydd hyn yn sicrhau y bydd y rhai sydd newydd adael gofal ac ar incwm isel yn cael eu hamddiffyn."

Bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn trafod y mater ar 27 Hydref.