Chwifio baner y digartre
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl sy'n ddigartre' ac yn cysgu ar strydoedd Cymru ar gynnydd yn ôl elusen The Wallich, dolen allanol, ond mae un menyw o Abertawe yn ceisio mynd i'r afael â'r sefyllfa.
Mae Jo Ashburner Farr, wnaeth dreulio cyfnod yn byw ar y stryd, yn gofalu am gwmni cymdeithasol yn Abertawe sydd yn cydweithio'n agos ag elusennau'r digartre'.
Ond nawr mae hi'n awyddus i harnesu hen fusnes ei thad i helpu pobl sy'n cysgu ar strydoedd Cymru fel y bu'n egluro wrth Cymru Fyw...
Roedd Red Dragon Manufacturing, cwmni fy nhad yn cynhyrchu baneri o safon uchel. Sefydlodd y cwmni yn 1969 a ni oedd yn gyfrifol am wneud y baneri gafodd eu defnyddio yn Seremoni'r Arwisgo yng Nghastell Caernarfon.
Daeth y cwmni i ben ar ôl i fy nhad ymddeol, ond wnes i benderfynu ail sefydlu'r cwmni yn 2014 fel cwmni cymdeithasol, sydd yn ail fuddsoddi ei holl elw nôl mewn i helpu'r busnes a'r gweithwyr sy'n gweithio ynddo.
Mae elusnennau pobl digartre' yn agos at fy nghalon gan fy mod i am gyfnod wedi bod mewn sefyllfa pan nad oedd gen i do dros fy mhen. Ro'n i newydd gael plentyn, fy mhriodas wedi chwalu, a doedd unman gyda fi i fyw nag unrhyw ffordd o gael arian.
Dim ond am gyfnod byr iawn oedden ni yn y sefyllfa echrydus hon, ond roedd yn ysgytwad syfrdanol ac yn foment sydd yn newid eich bywyd a'ch holl agweddau.
Help llaw yn lle cardod
Ry'n ni'n rhoi cymorth a hyfforddiant i bobl ddigartre' sy'n cael eu cyfeirio atom ni gan elusennau fel y Wallich.
Gwneud baneri yw prif fusnes y cwmni, felly sgiliau gwnïo 'dy'n ni'n feithrin yn bennaf. Ar hyn o bryd, ni'n cyflogi 11 o bobl, ond wedi hyfforddi tua 120 a'u helpu nôl i fyd gwaith.
Felly ni'n cynnig cymorth i bobl ail afael yn eu bywydau. Mae elusennau yn gallu helpu i gael lloches i bobl sy'n cysgu ar y stryd... ond beth wedyn?
Mae'n cynllun hyfforddi'n medru rhoi'r sgiliau a'r hyder i berson fynd yn ôl i fyd gwaith... ac yn wir, mi fedrwn ni hyd yn oed greu'r gwaith ar eu cyfer.
Y cam nesaf
Ond erbyn hyn, mae'r cwmni am ddatblygu ac adeiladu ar ein profiad gyda thecstilau a chynhyrchu o safon uchel i greu cynnyrch newydd fydd yn cynnig cymorth i'r digartref.
Mae cot Roof yn ddilledyn i'r digartref sydd yn dal dŵr, yn dwym ac sydd â'r potensial i achub bywydau pan mae'r tywydd yn oer neu'n wlyb.
Mae'r defnydd wedi ei gynllunio ar y cyd gyda'n partneriaid ym Mhrifysgol Abertawe ac yn y bôn, bydd person yn medru gorwedd mewn pwll o ddŵr a dal aros yn sych.
Ffrwyth partneriaeth
Mae'n gynnyrch o safon uchel tu hwnt, ac mae wedi rhoi'r cyfle i'r Brifysgol wneud y mwyaf o'u hadnoddau ymchwil a datblygu tecstilau, er budd y cynnyrch gorffenedig.
Y syniad yw bod ein gweithlu oedd yn arfer cysgu ar y stryd yn creu cynnyrch fydd yn helpu rhai llai ffodus sydd dal yn ddigartref.
Ond mae'r syniad wedi datblygu tu hwnt i'r hyn ro'n i wedi ystyried yn wreiddiol. Mae'r fyddin wedi dangos diddordeb yn Roof fel dilledyn ar gyfer eu snipers ac mae gŵr busnes wedi bod yn ceisio fy mherswadio i greu fersiwn fwy soffistigedig o'r got i'w gwerthu i anturiaethwyr a phobl sy'n gwneud extreme sports.
Am bob pedair cot y byddwn ni'n ei chynhyrchu, mi fydd y cwmni'n gallu gwneud un got yn rhad ac am ddim i berson digartref lleol.
Erbyn yr amser yma y flwyddyn nesaf, ni'n gobeithio ehangu i gyflogi tair gwaith gymaint o bobl a hyd yn oed mwy yn y dyfodol.
Gobeithio y byddwn ni'n dal i ddatblygu a thyfu gan fod pob ceiniog o elw'n cael ei ail fuddsoddi i greu swyddi.