Rygbi yn y gwaed
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na chwech chwaraewr gyda'r cyfenw Davies yn chwarae i un o dimau rygbi'r gogledd ar 21 Hydref. Dim byd yn anarferol yn hynny meddech chi. Wedi'r cwbl mae Davies yn gyfenw cyffredin. Ond mae'r Daviesiaid yma yn aelodau o'r un teulu.
Chwaraeodd y chwech Davies, a'u cefnder Jacob Dunn, i Landudno yn eu buddugoliaeth dros Yr Wyddgrug.
Ond mae angen mynd yn ôl rai blynyddoedd i gael 'chydig o'r cefndir. Roedd John Davies yn chwarae dros Landudno yn yr 1980au a 1990au, felly hefyd ei frodyr David Snr a Jason. Roedd eu cefndryd, Sam a Bryn Davies, hefyd yn chwarae dros y clwb.
Mae'r pump wedi hen ymddeol, ond heddiw mae saith o'r genhedlaeth iau yn cynrychioli'r clwb.
Mae'r dau fewnwr yng nghlwb Llandudno, Cameron a Byron, yn feibion i John. Mae Cameron hefyd yn chwarae dros dîm Rygbi Gogledd Cymru ac wedi cynrychioli Cymru dan 20 yn y gorffennol. Mae'r blaenasgellwyr, Allan a Lee, a'r canolwr David Davies yn frodyr i'w gilydd ac yn gefndryd i Cameron a Bryn. Mae'r wythwr, Kelvin yn fab i David Snr, ac mae Jacob (Dunn) yn fab i Jason.
Dywedodd John wrth Cymru Fyw: "Mae'r clwb rygbi 'ma'n golygu llawer i ni fel teulu. Es i yna gyntaf pan o'n i'n wyth oed, ac yn chwarae yn y timau ieuenctid i'r tîm cyntaf pan o'n i'n 17, ac yna es i 'mlaen i hyfforddi.
"Ac mae'n bwysig i'r lleill hefyd - wedi iddo roi'r gorau i chwarae i RGC roedd Kelvin eisiau dod nôl i chwarae dros Landudno, ac mae Cameron yn chwarae i ni pan fydd gan RGC benwythnos rhydd hefyd.
"Mae'n glwb teuluol braf ac mae'n grêt bod yn rhan ohono."
Ond be' sy'n digwydd i dîm rygbi Llandudno os oes 'na achlysur teuluol a bod rhaid i'r bechgyn fynd iddo? "Syml," meddai John, "peidiwch byth â phriodi ar ddydd Sadwrn yn ystod y tymor rygbi - priodwch yn yr haf!"