"Mae hi'n iawn i grio"

  • Cyhoeddwyd
teulu irfon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Irfon yn briod â Rebecca, ac yn dad i bump o blant

Mae hi wedi bod yn bum mis anodd i Rebecca Williams a'r plant ar ôl colli gŵr a thad.

Bu farw Irfon Williams o ganser ym mis Mai. Ag yntau ynghanol ei salwch bu'n ymgyrchu'n ddi-flino i wella'r ddarpariaeth i gleifion yn y gogledd gan sefydlu ymgyrch Hawl i Fyw.

Ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru ar ddydd Iau, bu ei weddw Rebecca yn edrych yn ôl ar ei fywyd gan drafod cyfnod ei salwch a sut mae'r teulu yn ymdopi nawr yn eu galar:

Roedd y tŷ'n llawn hwyl ac Irfon mor ffyni. Ro'n i'n chwerthin pob dydd trwy'r dydd, a hyd yn oed pan oedd o ar Ward Alaw yn marw, roedd o dal yn chwerthin, a roedden ni'n dal yn chwerthin efo'n gilydd. Roedd hyn yn arbennig dwi'n meddwl.

Mae pobl yn dweud wrtha'i bod fi'n ddewr, ond dwi jyst yn gwneud beth mae llawer o bobl yn 'wneud, sef cadw i fynd. Ac mae'n bwysig i mi gadw i fynd er mwyn yr hogia'. Maen nhw eisiau rwtîn, maen nhw isio i mi fod yna iddyn nhw. Dwi'n gwneud beth fedra' i, ond mae yn anodd.

Mae'n bwysig iawn siarad am alaru a bod yn onest. Mae galar yn brofiad anodd iawn, mae'n cael effaith mawr ar y corff a iechyd meddwl. Mae'n bwysig i bobl siarad am hynny a bod yn onest.

Disgrifiad,

Cyn cyhoeddi hunangofiant Irfon Williams, mae Rebecca Williams yn siarad yn agored iawn.

Mae'n bwysig i grio, mae'n bwysig i adael i'r emotions fynd allan. Y neges dwi'n ceisio rhoi i'r hogiau ydy ei bod hi'n iawn i hogyn mawr i grio ac i ddweud dy fod ti'n teimlo'n drist. I ddweud fod ti'n methu Dad. Hynna ydy'r peth dewr i'w wneud.

"Dwi ddim yn licio'r neges, 'tyrd rŵan, hogyn mawr, paid â crio'... 'di hwnna ddim yn iawn, ac mae 'na dal stigma o gwmpas crio dwi'n meddwl, yn enwedig efo hogia'.

Roedd o mor anodd eistedd lawr efo Siôn a Ianto, a dweud bod Irfon yn mynd i farw. Dwi'n meddwl yr un mor anodd â phan roedd yn rhaid i mi ddweud wrthyn nhw ei fod o wedi marw.

Ond 'da ni'n lwcus. Roedd Irfon a fi yn siarad am bob dim, roedden ni'n dîm da. Wnaethon ni siarad lot am y funeral a be' oedd Irfon isio, a dwi'n meddwl fod hynna'n un peth sydd wedi helpu fi gyda'r galar.