Pin yn y balŵn
- Cyhoeddwyd
Cyfle hyfryd i ddathlu blwyddyn arall ym mywyd eich annwyl blentyn. Neu hunllef llwyr sy'n llawn straen a stranco?
Pan mae'n dod at bartïon plant mae'n amser rhoi pin yn y balŵn, yn ôl y ddigrifwraig Beth Angell.
Pan o'n i'n ifanc roedd y partïon yma'n bethau syml:
1. Gwahodd pawb o'r dosbarth (neu'r ysgol, yn ddibynnol ar niferoedd).
2. Gwneud cais am gacen arbennig (rhywbeth allai gael ei adeiladu yn defnyddio cyfuniad celfydd o mini rolls a bysedd siocled.)
3. Atgoffa Mam fod NEB yn hoffi brechdanau ŵy. (Heblaw am Mam ei hun.)
4. Lapio un tegan rhad ar gyfer pasio'r parsel. (Doedd dim anrheg ym mhob rhwygiad a phawb yn ennill yr adeg yna.)
5. Cofio rhoi darn o'r gacen mewn papur i bawb fynd adref (oedd wastad yn cael ei ddinistrio wrth i rywun eistedd arno yn y car ar y ffordd adref).
A dyna ni.
Deng mlynedd a mwy o bartïon penblwydd. Yr unig un sydd yn sefyll allan ydi pan aeth braich Carwyn yn sownd mewn cadair. Ond stori arall 'di hynna!
Partis penblwydd o uffern
Felly pan ges i blant - a Nain a Taid yn mynnu mod i'n dathlu eu penblwyddi - roedd eu partïon cynnar yn dilyn yr un drefn. Heblaw am y ffaith fod y rhieni yn ei gweld hi'n ddigon derbyniol i lowcio Prosecco tra bod eu plant yn bwyta eu brechdanau. Dyddiau difyr, dyddiau da!
Ond 'doedd y melyster diniwed yma ddim am barhau yn hir, oherwydd yn dilyn y partïon bach teulu a ffrindiau yn y blynyddoedd cynnar, daeth dyddiau tywyll y 'Partis Penblwydd o Uffern'…
Na! Dwi ddim yn gorddweud. Gall unrhywun dystio fod y cyfnod yma yn gyfnod ofnadwy i unrhyw riant yn ei iawn bwyll. Ac fe alla' i dystio - pan ma'n dod i bartis plant, tydi'r rhan fwyaf o rieni ddim yn eu hiawn bwyll.
Cylch dieflig
Mae dechrau'r daith yn ddigon diniwed am wn i. Rhywun yn gwahodd pawb i'r ganolfan hamdden lleol i bawb gael tro ar y chwarae meddal. Yna mae'r parti nesaf angen mynd un yn well ac yn llogi clown neu gonsuriwr i 'ddiddanu'r plantos'. A dyna ni, ma'r cylch dieflig wedi dechrau troi a phob un yn teimlo bod rhaid mynd un yn well pob tro. Fel Top Trumps pwy 'di'r rhiant gorau. Cyn i chi droi rownd, 'da chi'n pacio bag i'ch plentyn ymweld â Disneyland Paris am fis gan bod 'Amelia fach' yn troi'n bump oed.
Ocê, ella mod i'n gorddweud rhyw fymryn yn fan'na - ond dim lot.
A pheidiwch hyd yn oed fy nechra' i ar y bagiau parti. I'r rhai ohonoch sydd wedi bod digon ffodus i osgoi y cwdyn bach hyll a aned o feddwl satan ei hun, gadewch i mi esbonio.
Bagiau bychain yw rhain sydd yn dal pob math o sbwriel plastig sydd am ddifetha'r amgylchedd a bygro'r hŵfyr fyny. Y gwir yw fod y bagiau yma fel crack cocaine i blant dan 10 oed. Cyn i'r parti ddechrau maen nhw'n chwilio am y bagiau, yn holi beth sydd yn y bagiau ac yn trio dwyn y bagiau. Ac yn union yr un patrwm â'r partïon, mae'r anrhegion bach annifyr sy'n celu yn y bagiau yn gorfod gwella gyda phob parti.
Rwan efallai mod i'n swnio'n chwerw ac yn ddi-hwyl am hyn i gyd. Ond gadewch i fi esbonio gwraidd fy nicter. Mae fy mhlentyn hynaf yn cael ei phenblwydd ym mis Mehefin. Hi oedd yr olaf yn ei dosbarth i gael penblwydd ac roedd hyn yn fy nghorddi gan bo'r safon ddisgwyliedig erbyn fy nhro i yn cynnwys wythnos i bawb yn y Bahamas a bag plastic yn cynnwys tocyn am drip ar unicorn!
Prosecco yn yr oergell
Ond dwi 'rioed 'di bod yn un i ddilyn y drefn. Yn bennaf gan na fyddai'r banc yn caniatáu, yn hytrach nag unrhyw safiad moesol!
Felly penderfynais i fynd yn old school a chael 'stafell yn y neuadd bentre'. Dd'wedais i nad o'n i am wneud bagiau parti am 'resymau amgylcheddol', ac roedd croeso i unrhywun ymuno efo fi gan fod 'na Prosecco yn yr oergell.
Mi weithiodd yn iawn a chafodd pawb amser gwych ond mi o'n i'n gwybod y byddai'r un drefn yn ôl drachefn erbyn mis Medi. Ond nes i ddim rhoi mewn i'r pwysa'. Naddo wir. Mi ddaliais yn dynn â dwy law i fy 'naliadau' ac mi aeth yr arian a arbedwyd ar bethau llawer mwy buddiol na bagiau parti - pethau fel llyfrau, elusennau a gwin coch!
Ydw i'n difaru? Nacdw ddim o gwbl ond dwi ddim yn siŵr os bysa fy merch a ennillodd y ffug enw 'Ffion parti rhyfadd' yn cytuno!