Caerdydd i godi treth y cyngor wrth geisio arbed £23m

  • Cyhoeddwyd
neuadd y ddinas caerdyddFfynhonnell y llun, M J Richardson/Geograph

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu codi treth y cyngor fel rhan o'u hymdrechion i arbed £23m o'u cyllideb yn 2018/19.

Bydd y dreth yn codi o 3.7%, gyda'r gobaith y bydd hynny'n golygu £4.7m yn ychwanegol yn y coffrau.

Mae'r cyngor hefyd yn bwriadu rhoi cap ar yr arian sydd ar gael i ysgolion, a chodi prisiau prydau ysgol.

Maen nhw hefyd am gynyddu'r pris ar gyfer gwasanaeth i ddod o hyd i gartrefi newydd ar gyfer cŵn, yn ogystal â chost gwasanaethau claddu.

Ymgynghoriad

Fe wnaeth Cyngor Caerdydd gael cynnydd o 0.2%, neu £954,000, i'w cyllideb gan Lywodraeth Cymru y llynedd.

Ond dywedodd yr awdurdod lleol fod cynnydd yn y boblogaeth, yn ogystal â chostau cynyddol gwasanaethau, yn golygu fod yn rhaid iddyn nhw wneud arbedion.

Maen nhw'n bwriadu defnyddio £2.35m o arian wrth gefn er mwyn lleihau rhywfaint o'r diffyg.

Ond dywedodd y cyngor y byddai'n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i £14.3m arall, un ai drwy arbedion neu drwy godi rhagor o refeniw.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cynghorydd Chris Weaver nad oedd gan yr awdurdod ddewis ond codi treth cyngor

Fe fyddan nhw nawr yn cynnal ymgynghoriad chwe wythnos, fydd yn para rhwng 2 Tachwedd a 14 Rhagfyr, er mwyn rhoi cyfle i drigolion gael dweud eu dweud am y cynigion.

"Nid oes unrhyw opsiynau rhwydd. Nid yw cyni ariannol wedi dod i ben," meddai'r cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad.

"Mae ein cynllun yn cynnwys codi'r Dreth Gyngor, ond nid yw'r Dreth Gyngor ar ei phen ei hun yn mynd yn agos at gau'r bwlch.

"Bydd cynnydd yn ein galluogi i gynnal rhai o'r gwasanaethau y mae ein trigolion yn rhoi gwerth arnyn nhw, a gallai'r rhain gael eu colli fel arall."

Ychwanegodd: "Mae'n hynod bwysig bod ein trigolion yn achub ar y cyfle i gyfrannu at broses y gyllideb."