Galw am saethu mwy o filidowcod i ddiogelu eog a sewin
- Cyhoeddwyd
Mae angen dyblu nifer y bilidowcod a hwyaid danheddog sy'n cael eu saethu yng Nghymru er mwyn gwarchod eog a sewin, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Bysgota.
Mae'r corff am weld Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ei gwneud hi'n haws i bysgotwyr wneud cais am drwydded i ladd yr adar.
Ond yn ôl Cymdeithas Ornitholeg Cymru nid oes tystiolaeth ddigonol fod yr adar yn broblem.
Mynnu nad ydyn nhw'n ystyried gwneud newidiadau i'w system drwyddedu mae CNC.
'Argyfwng go iawn'
Ers 2013 maen nhw wedi cymeradwyo 80 o drwyddedau, wnaeth arwain at ddifa 130 o hwyaid danheddog a 347 o filidowcod.
Mae'n rhaid i bobl sy'n gwneud cais am drwydded brofi eu bod nhw wedi ceisio ofni'r adar yn gyntaf, yn ogystal â chyfrifiad o faint o adar sy'n bresennol ar ran o afon dros gyfnod o fis.
Dechreuodd niferoedd bilidowcod gynyddu ar ôl i'r rhywogaeth gael ei warchod yn 1981, ac mae pysgotwyr yn honni bod hwyaid danheddog bellach yn olygfa gyfarwydd ar nifer o afonydd Cymru hefyd.
Gall pob o aderyn fwyta hyd at bwys o bysgod y dydd.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ymgyrch gan yr Ymddiriedolaeth Bysgota yn Lloegr wedi arwain at adolygiad gan Lywodraeth y DU o nifer yr adar sy'n cael eu saethu, ac mae ffurflen gais symlach wedi'i gyflwyno ar gyfer trwyddedau i ddifa.
Bellach mae'r elusen eisiau gweld yr un fath o weithredu yng Nghymru.
Y gred yw bod pysgota afon yn cyfrannu oddeutu £150m y flwyddyn i economi Cymru;
Mae afonydd y wlad yn enwog am eu heog a'u sewin;
Yn gynharach eleni cyhoeddodd CNC bod niferoedd y pysgod wedi cyrraedd "isel bwynt na'i welwyd o'r blaen";
Cafodd cyfreithiau lleol eu cynnig, gan gynnwys gorfodi pysgotwyr i daflu pysgod yn ôl am y ddegawd nesaf.
Yn ôl Mark Lloyd, prif weithredwr yr Ymddiriedolaeth Bysgota, fe fyddai hi'n "amserol felly i roi mwy o ryddid i bysgotwyr reoli bilidowcod".
Honnodd na fyddai nifer presennol y trwyddedau sy'n cael eu caniatáu yn peri "unrhyw fath o ostyngiad yn y boblogaeth".
"Fe hoffem ni weld niferoedd yr adar sy'n cael eu saethu yn dyblu, a'i gwneud hi'n llawer llai anodd i bysgotwyr wneud cais am drwydded," meddai.
"Maen nhw'n mynd i wneud y gwaith yma yn rhad ac am ddim er mwyn diogelu niferoedd samwn a sewin sy'n wynebu argyfwng go iawn yng Nghymru."
Mae'r elusen wedi lansio gwefan lle mae modd i bobl gofnodi pan eu bod nhw'n gweld yr adar yn pysgota.
'Angen arolygon gwyddonol'
Ond yn ôl Cymdeithas Ornitholeg Cymru byddai "cyfres o gofnodion ar hap" ddim yn darparu'r dystiolaeth fyddai ei angen ar gyfer cymeradwyo trwyddedau.
Dywedodd cadeirydd y grŵp, Mick Green, bod angen cynnal arolygon swyddogol a thrylwyr o afonydd.
Dywedodd: "Ry'n ni'n credu bod angen arolygon gwyddonol go iawn er mwyn dod i ddeall beth yw poblogaethau'r adar yma a faint maen nhw'n defnyddio'n hafonydd ni, cyn bod trwyddedau yn cael eu caniatáu.
"Dim ond bryd hynny y gallwn ni fod yn siŵr na fydd na effaith negyddol ar y rhywogaethau yma sydd wedi'u gwarchod dan y gyfraith."
Ychwanegodd bod sawl rheswm pam fod niferoedd pysgod yn dirywio, gan gynnwys ansawdd ŵwr a cholli cynefin, a dywedodd y dylid gwneud mwy i daclo'r problemau hynny "yn hytrach na beio bywyd gwyllt".
Cydnabod bod CNC yn "bryderus iawn am y dirywiad mewn eog a sewin yn afonydd Cymru" a bod adar sy'n eu bwyta yn cael effaith wnaeth Nick Thomas, rheolwr gweithrediadau'r gogledd ddwyrain.
Ond mynnodd bod angen i'r corff dderbyn tystiolaeth bod niwed yn digwydd mewn ardaloedd penodol cyn rhoi caniatâd i bobl saethu'r adar.
"Mae gennym ni broses yn ei le a ry'n ni angen pobl i gyflwyno tystiolaeth," meddai.
"Mond bod pysgotwyr yn darparu'r wybodaeth sydd ei angen ry'n ni'n barod i gymeradwyo trwyddedau.
"Ar hyn o bryd does 'na ddim cynlluniau gyda ni i newid ein prosesau ni ond ry'n ni'n edrych yn agos iawn ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Lloegr."