Dau arall yn gadael bwrdd clwb pêl-droed Merthyr Tudful

  • Cyhoeddwyd
Merthyr Town FCFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Merthyr Tudful yn chwarae yng Nghyghrair Evo-Stik

Fe wnaeth dros 100 o bobl fynychu cyfarfod nos Lun i drafod dyfodol clwb pêl-droed Merthyr Tudful, yn dilyn ansicrwydd am eu sefyllfa ariannol.

Cafodd y cyfarfod ei alw yn dilyn ymddiswyddiad dau aelod arall o'r bwrdd - y cadeirydd Meurig Price a'r trysorydd John Strand - a hynny wedi i sawl un eisoes ymadael.

Mae llawer o'r chwaraewyr hefyd wedi gadael, a dydd Sadwrn bu'n rhaid i'r rheolwr Gavin Williams ddewis tîm o chwaraewyr ieuenctid wrth iddyn nhw golli 13-1 i Chesham Town.

Dywedodd Mr Price ei fod wedi "mwynhau'r rhan fwyaf" o'i chwe blynedd fel cadeirydd, a'i fod yn gobeithio y byddai modd achub y clwb.

Codi arian

Mae'r clwb yn wynebu bil treth o £25,000, sydd angen ei dalu erbyn diwedd yr wythnos, ac maen nhw eisoes wedi codi £10,000 tuag at hynny.

Clywodd y cyfarfod fod angen £20,000 arall er mwyn cadw'r clwb i fynd nes Dydd San Steffan.

Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw £37,000 o arian parod.

Clywodd y cyfarfod fod y clwb bellach wedi penodi cyfrifwyr newydd ac yn gweithio gyda'u landlordiaid a'r cyngor ar gynllun ar gyfer y dyfodol.

Mae'r clwb hefyd yn edrych i benodi aelodau dros dro i ymuno â'r pum aelod o'r bwrdd sydd dal yn weddill, ac mae disgwyl i gynllun ar gyfer achub y clwb gael ei gyflwyno yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol ymhen pythefnos.