'Twyll ceir Bangor': Dyn yn y llys
- Cyhoeddwyd
![gwyn meirion roberts](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B0C0/production/_98584254_gwynmerionroberts.jpg)
Mae dyn 48 oed o Gyffordd Llandudno wedi ymddangos gerbron ynadon wedi ei gyhuddo o dwyllo nifer o gwsmeriaid am dros filiwn o bunnoedd.
Ni wnaeth Gwyn Meirion Roberts gyflwyno ple yn Llys Ynadon Llandudno, wrth iddo wynebu 24 o gyhuddiadau yn ymwneud â thwyll.
Mae'r cyhuddiadau yn deillio'n ôl i 2015, ac yn ymwneud â chwmni Menai Vehicle Solutions ym Mangor, Gwynedd.
Fe gafodd Mr Roberts ei ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn ymddangos ger bron Llys Y Goron Caernarfon ar 18 Rhagfyr.Dywedodd Carla Forfar ar ran yr amddiffyn, fod disgwyl i Mr Roberts wadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
![llys](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/03EE/production/_98860010_9f464361-8b83-483a-b50a-a3b77aa96a67.jpg)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2017