Cymru'n cyhoeddi'r tîm i herio Seland Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi gwneud tri newid i'r tîm gafodd eu trechu gan Awstralia bythefnos yn ôl ar gyfer y gêm yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn.
Hallam Amos a Scott Williams sy'n cymryd lle Liam Williams a Jonathan Davies, sydd wedi'u hanafu, gyda Rhys Webb yn dechrau fel mewnwr.
Mae 12 newid o'r tîm wnaeth drechu Georgia o 13-6 y penwythnos diwethaf.
Williams, Amos a Webb yw'r tri sy'n cadw eu lle o'r gêm honno, gyda Rhys Priestland ar y fainc ar ôl peidio cael ei enwi yn y 23 yn erbyn Awstralia.
Anaf i Read
Yn y rheng-ôl mae Josh Navidi yn dechrau fel rhif saith, tra bo Justin Tipuric a Jamie Roberts ar y fainc ac yn debygol o wneud eu hymddangosiad cyntaf yng Nghyfres yr Hydref eleni.
Mae penderfyniad Warren Gatland i gadw Owen Williams fel canolwr yn awgrymu y bydd Cymru'n parhau i chwarae gêm fwy agored, fel welwyd yn erbyn Awstralia.
Mae Seland Newydd hefyd wedi cyhoeddi eu tîm hwythau, gyda Sam Whitelock yn cymryd y gapteiniaeth yn absenoldeb Kieran Read, sydd ag anaf.
Dyw Cymru heb drechu Seland Newydd ers 1953, ac mae'r Crysau Duon wedi ennill y 29 gêm ddiwethaf rhwng y ddwy wlad.
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; Steff Evans, Scott Williams, Owen Williams, Hallam Amos; Dan Biggar, Rhys Webb; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (c), Aaron Shingler, Josh Navidi, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Kristian Dacey, Wyn Jones, Leon Brown, Cory Hill, Justin Tipuric, Gareth Davies, Rhys Priestland, Jamie Roberts.
Tîm Seland Newydd
Damian McKenzie, Waisake Naholo, Ryan Crotty, Sonny Bill Williams, Rieko Ioane, Beauden Barrett, Aaron Smith; Kane Hames, Codie Taylor, Nepo Laulala, Patrick Tuipulotu, Samuel Whitelock (c), Liam Squire, Sam Cane, Luke Whitelock.
Eilyddion: Nathan Harris, Wyatt Crockett, Ofa Tu'ungafasi, Scott Barrett, Matt Todd, TJ Perenara, Lima Sopoaga, Anton Lienert-Brown.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2017