'Geiriau doeth' i ysbrydoli Cymru?
- Cyhoeddwyd
Y tro diwethaf i dîm rygbi Cymru guro Seland Newydd oedd yn 1953.
Fe gafodd prif weinidog Prydain, Winston Churchill, ei urddo'n farchog gan y frenhines wythnosau cyn iddi hi gael ei choroni'n swyddogol.
Llwyddodd Edmund Hillary a Tensing Norgay i gyrraedd copa Everest.
Roedd Delme Thomas yn fachgen 11 oed ym mhentre' Bancyfelin, Sir Gaerfyrddin.
Aeth ymlaen i fod yn gapten ar dîm Llanelli a gurodd y Crysau Duon yn 1972, a chyn hynny roedd ar daith fuddugol y Llewod i Seland Newydd yn 1971.
'Geiriau doeth'
Mae'n un o'r nifer fach o Gymry sydd â phrofiad o ennill yn erbyn cewri hemisffer y de felly, a phwy well i siarad gyda'r tîm presennol wrth iddyn nhw geisio dod a rhediad 64 mlynedd o golli ben yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Daeth Delme Thomas i siarad gyda blaenwyr Cymru yn eu gwesty nos Iau er mwyn rhannu ei brofiad, ac roedd hyfforddwr y blaenwyr, Robin McBryde yn sicr bod hynny wedi bod o fudd mawr.
Dywedodd: "Roedd ei eiriau yn rhai doeth, ac roedd yn dda eu clywed.
"Fel capten tîm llwyddiannus Llanelli ac wedi chwarae ar daith lwyddiannus y Llewod fe rannodd ei brofiadau. Yn amlwg mae seicoleg yn beth mawr yn y cyswllt yma."
Unwaith eto Seland Newydd yw'r ffefrynnau, ond mae absenoldeb rhai o sêr y Crysau Duon yn gymorth i obeithion Cymru yn ôl rhai. Ni fydd Dane Coles, Jerome Kaino, Brodie Retallick na'r capten Keiran Read yn chwarae mewn du yn Stadiwm Principality.
'Mwy peryglus'
Er hynny mae Robin McBryde yn wyliadwrus.
"Mae e (Read) yn ddylanwad mawr ar y tîm... ond dyma gêm olaf eu taith nhw a dyw nhw heb golli, felly mae ganddyn nhw bwynt i'w brofi," meddai.
"Efallai bod rhai unigolion ar goll, ond mae hynny'n mynd i'w gwneud nhw'n fwy peryglus fel tîm yn fy marn i.
Ond mae lot wedi newid i Gymru ers i ni wynebu nhw ddiwethaf.
"Ry'n ni wedi paratoi cystal ag y gallwn ni, ac ry'n ni'n hyderus. Os fydd pethau'n mynd o'n plaid fe allwn ni ennill."
Ers 1953, mae Seland Newydd wedi curo Cymru 29 o weithiau yn olynol. Mae rhai yn credu y byddai atal y rhediad yn gymaint o gamp â choncro Everest cofiwch!
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2017