Liam Williams allan o Gyfres yr Hydref oherwydd anaf

  • Cyhoeddwyd
Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Williams wedi dioddef anaf i'w abdomen a does dim sicrwydd pryd fydd yn dychwelyd.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd cefnwr Cymru, Liam Williams allan am weddill Cyfres yr Hydref gydag anaf.

Mae Williams wedi dioddef anaf i'w abdomen a does dim sicrwydd pryd fydd yn dychwelyd.

Mae Alex Cuthbert hefyd wedi ei ryddhau o'r garfan gydag anaf i'w goes.

Bydd Cymru yn wynebu Seland Newydd yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

Hyd yn hyn mae Cymru wedi ennill un gêm yn y gyfres, , dolen allanol, a cholli un, yn erbyn Awstralia.