Llai o bobl yn gweithio ar ffermydd Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Ffermwr yn bwydoFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae astudiaeth newydd yn dangos fod nifer y bobl sy'n gweithio ar ffermydd yng Nghymru wedi cyrraedd ei lefel isaf mewn 20 mlynedd.

Mae'r ffigyrau'n dangos bod bron i 52,000 o weithwyr mewn swyddi llawn neu ran amser ar ffermydd - sy'n ostyngiad o 3% ers y llynedd.

Yn 1998, roedd bron i 62,000 o bobl yn gweithio ar ffermydd.

Dywedodd un arweinydd undeb amaethyddol y dylai'r ffigyrau gael eu trin "yn ofalus" gan fod llawer o bobl wedi gadael swyddi ar ffermydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae llawer yn cael eu cyflogi gan gontractwyr amaethyddol arbenigol.

Mae'r data diweddaraf wedi ei gasglu ar gyfer adroddiad - Arolwg Amaethyddiaeth a Garddwriaeth: Canlyniadau Cymru, gan Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin.

Mae'n cynnwys ffermwyr llawn, rhan-amser, cyfarwyddwyr amaethyddol, partneriaid busnes a'u partneriaid, yn ogystal â gweithwyr rheolaidd ac achlysurol.

Nid oedd y rhai sy'n gweithio i gontractwyr arbenigol yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd dirprwy lywydd NFU Cymru, John Davies: "O gofio maint a strwythur ffermydd yng Nghymru, mae'r ffermwr a'r aelodau o'r teulu yn gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith ar y fferm.

"Yn gyffredinol, bydd busnesau ffermio yn cyflogi contractwyr gyda sgiliau a pheiriannau arbenigol i gyflawni tasgau penodol ar y fferm ar adegau penodol o'r flwyddyn. Bydd enghreifftiau o hyn ar gyfer gwaith fel cneifio, cynaeafu neu dorri gwrychoedd.

"Bydd y contractwyr hyn yn hunangyflogedig ac felly ni chaiff eu cynnwys yn y ffigyrau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, sy'n ymwneud â gweithwyr rheolaidd a gweithwyr achlysurol a gyflogir ar y fferm yn unig.

"Gydag amaethyddiaeth yn dod yn rhywbeth sy'n gofyn am fwy o sgil, credwn fod llai o angen am lafur llawn amser ar y fferm, a mwy yn llogi arbenigwyr hunangyflogedig ar gyfer rolau penodol.

"Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod llai o bobl yn gwneud incwm mewn amaethyddiaeth, dim ond bod natur y gyflogaeth wedi newid."

Amodau anodd

Mae ffermwyr Cymru wedi dweud yn y gorffennol eu bod yn wynebu amodau anodd yn y farchnad, yn ogystal â phrisiau llaeth anwadal, oedi mewn taliadau ac ansicrwydd dros Brexit.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae nifer y gweithwyr fferm yng Nghymru wedi gostwng dros yr ugain mlynedd diwethaf, gan adlewyrchu'r sefyllfa ar draws y DU gyfan. Fodd bynnag, mae cynhyrchiant a chynhyrchiant wedi cynyddu dros yr un cyfnod.

"Mae'r gadwyn gyflenwi amaethyddiaeth yn debyg i'r rhan fwyaf o ddiwydiannau eraill yn yr ystyr bod arloesed a datblygiad technolegol wedi arwain at fwy o fecanwaith a ffyrdd mwy effeithlon o weithio."