Dyn o Wrecsam yn pledio'n euog i lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Jordan James Lee DavidsonFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jordan Davidson ymddangos drwy gyswllt fideo o Ysbyty Ashworth

Mae dyn o Wrecsam wedi pledio'n euog i lofruddio Nicholas Churton yn ei gartref ym mis Mawrth eleni.

Fe wnaeth Jordan Davidson, 25, bledio'n euog drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Yn ogystal â llofruddiaeth, fe wnaeth o hefyd bledio'n euog i gyhuddiadau o ladrata, ceisio lladrata, ceisio achosi niwed corfforol difrifol ac achosi niwed corfforol i aelodau'r heddlu.

Cafodd yr heddlu eu galw fore Llun 27 Mawrth i gyfeiriad ar Glôs Cilgant yn Wrecsam, lle cafwyd hyd i gorff Mr Churton.

Clywodd y llys fod anafiadau y dyn 67 oed, yn gyson a rhai oedd wedi cael eu hachosi gan machete. Roedd anafiadau i'w wyneb penglog a'i wddf.

Roedd llaw dde y dyn anabl bron wedi torri o'r asgwrn yn llwyr.

Roedd yr anafiadau i'w ben yn gyson a rhai oedd wedi eu hachosi gan fwrthwl.

Dywed yr erlyniad fod tystiolaeth fod y diffynnydd wedi ceisio cynnau tân a bod y larwm mwg wedi ei ddatgysylltu.

Fe wnaeth Davidson ddisgrifio'r ymosodiad fel "diwrnod gorau ei fywyd".

Cyn yr ymosodiad roedd o wedi tynnu llun o'i hun gyda'r machete ar ei ffôn symudol, gan ddisgrifio'r arf fel ei "degan newydd".

Yn wreiddiol roedd disgwyl i'r achos bara am bythefnos, gan nad oedd eto wedi cyflwyno ple.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Nicholas Anthony Churton yn ei gartref ar 27 Mawrth

Fe wnaeth Davidson ymddangos drwy gyswllt fideo o Ysbyty Ashworth yn Lerpwl lle'r oedd wedi derbyn nifer o asesiadau.

Dywedodd y barnwr Mr Ustus Clive Lewis y byddai'n gohirio'r ddedfryd tan yr wythnos nesaf.

Mr Churton oedd cyn-berchennog bar gwin adnabyddus Churton's yn Yr Orsedd, ger Wrecsam - gwesty y bu'n ei redeg am bron i 30 o flynyddoedd.

Clywodd y llys fod Davidson wedi ei gael yn euog o sawl trosedd yn y gorffennol - nifer ohonynt yn ymwneud â lladrata o dai.

'Difrodi fflat'

Cafodd ei garcharu am dair blynedd yn 2015, a thra yng Ngharchar y Parc ger Pen-y-bont fe blediodd yn euog i fod â chyllell yn ei feddiant.

Roedd Davidson wedi ei ryddhau ar drwydded ar 9 Rhagfyr 2016, ac roedd dwy flynedd yn weddill cyn iddo gael ei ryddhau o amodau ei drwydded.

Clywodd y llys i'r diffynnydd gael i gyhuddo o ddwyn gan Mr Churton, ond nad oedd yr heddlu wedi bwrw 'mlaen gyda'r achos.

Ond yn dilyn y cyhuddiad, dywed yr erlyniad fod Mr Churton wedi ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 13 Mawrth yn dweud fod Davidson wedi ei fygwth gyda morthwyl ac wedi difrodi ei fflat.

Roedd Davidson wedi gwadu'r cyhuddiad hwnnw.

Dywedodd Andrew Thoams ar ran yr erlyniad mai o bosib y gŵyn i'r heddlu oedd yr hyn wnaeth achosi Davidsdon i ymosod arno.