Gwahardd staff cartref plant am negeseuon 'anaddas'
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru yn deall fod nifer o staff mewn cartref plant wedi eu gwahardd o'r gwaith yn dilyn honiadau o negeseuon tecst "anaddas".
Mae'n debyg fod saith aelod o staff wedi eu gwahardd o'u dyletswyddau gan berchnogion cartref yn y Coed Duon.
Bydd Heddlu Gwent a swyddogion o wasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Caerffili yn cyfarfod yr wythnos nesaf i drafod y mater.
Dywedodd cartref Coed Duon eu bod wedi gwahardd yr aelodau staff yn syth a chymryd "camau pendant" i amddiffyn y bobl ifanc yn eu gofal.
'Camau pendant'
Mae BBC Cymru yn deall fod y camau wedi eu cymryd yn erbyn y gweithwyr yn yr wythnosau diwethaf, ac nad yw'r negeseuon WhatsApp yn cynnwys lluniau.
Perchnogion y cartref yw Keys Childcare, sy'n disgrifio'u hunain fel "y darparwr addysg a gofal mwyaf a mwyaf arloesol ar gyfer plant a phobl ifanc yn y DU ac Iwerddon".
Dywedodd llefarydd ar ran y cartref: "Fe wnaethon ni wahardd nifer o staff yn syth ar ôl cael clywed am yr honiadau ynglŷn â negeseuon anaddas ar WhatsApp.
"Cafodd yr awdurdodau perthnasol hefyd wybod, yn unol ag arfer da a gofynion statudol.
"Cafodd y camau pendant hyn eu cymryd yn unol â'n polisïau a gweithdrefnau cadarn sydd yn ein galluogi i ddiogelu'r bobl ifanc yn ein gofal tra'n bod ni a'r awdurdodau perthnasol yn ymchwilio i'r mater."
Er nad yw'r cartref yn cael ei redeg gan Gyngor Caerffili, maen nhw'n ymwneud â'r achos am ei fod yn disgyn o fewn eu hawdurdod lleol nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Gallwn gadarnhau ein bod bellach yn ymwybodol o'r mater yma a bod yr awdurdod lleol yn trafod gyda Heddlu Gwent ar y mater."
Cadarnhaodd Heddlu Gwent y bydd eu swyddogion yn cyfarfod â'r cyngor yr wythnos nesaf, ond doedd ganddyn nhw ddim sylw pellach i'w wneud ar hyn o bryd.
Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW), sydd yn rheoleiddio gofal plant a gwasanaethau cymdeithasol, wedi cael cais am sylw.
Mae BBC Cymru hefyd yn deall fod staff newydd wedi eu recriwtio gan y cartref yn y cyfamser er mwyn cyflawni dyletswyddau'r rheiny sydd wedi eu gwahardd.
Yn ôl gwefan Keys maen nhw'n "rheoli amryw o ysgolion a chartrefi plant cofrestredig o safon uchel, ac yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol gan gynnwys therapi, maethu, addysg, hyfforddiant a datblygu".
Maen nhw hefyd yn dweud: "Wrth galon Keys mae athroniaeth o ofal, ac ymrwymiad go iawn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc."