Cyngor Blaenau Gwent 'angen ail safle gwastraff'
- Cyhoeddwyd
Fe allai safle rheoli gwastraff gwerth £2.5m gael ei sefydlu ym Mlaenau Gwent i osgoi dirwyon gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r cyngor yn dweud bod y safle presennol yng Nglyn Ebwy yn atal trigolion rhag ailgylchu'n effeithiol, a'u bod yn cael trafferth delio â swm y gwastraff sy'n cael ei gymryd yno.
Mae'r cyngor yn wynebu dirwy o tua £100,000 am bob 1% y maen nhw'n is na'r targed ailgylchu o 58%.
Byddai'r safle newydd arfaethedig wedi'i leoli ar gyrion Abertyleri.
Ar y cofnod diwethaf fe lwyddodd y safle gwastraff yng Nglyn Ebwy gyrraedd cyfradd ailgylchu o 57%.
Ond fe wnaeth Blaenau Gwent osgoi dirwy - ynghyd â Chasnewydd a Thorfaen - am fod Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn disgwyl i'w perfformiad wella.
Bydd targed ailgylchu'r llywodraeth yn codi i 64% yn 2018/19.
'Pwysau sylweddol'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Blaenau Gwent: "Os nad yw swm y gwastraff sy'n cael ei gymryd i Lyn Ebwy ddim yn lleihau fe fyddwn ni'n parhau i dorri'r drwydded amgylcheddol.
"Mae 'na risg y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru ein cosbi, ac rydym yn parhau i drafod gyda nhw mewn ymdrech i sicrhau nad yw hyn yn digwydd."
Mae adroddiad wedi awgrymu y dylai'r cyngor agor safle arall i leddfu'r "pwysau sylweddol" ar y safle yng Nglyn Ebwy.
Dywedodd hefyd nad yw un safle yn ddigon i ddelio â gwastraff y sir.