Carchar i David Archer ar ôl troseddu 396 o weithiau

  • Cyhoeddwyd
David ArcherFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae troseddwr mynych o'r Rhyl sydd â bron i 400 o ddedfrydau yn ei erbyn wedi ei garcharu unwaith yn rhagor am ladrata.

Cafodd David Archer, 62 oed, ei garcharau am 26 wythnos ar ôl cyfaddef iddo ddwyn alcohol a bod â chyllell yn ei feddiant.

Clywodd Ynadon Llandudno fod Archer wedi treulio cyfanswm o bron i 33 mlynedd yn y carchar.

Clywodd ynadon ei fod wedi dwyn gwerth £178 o wirodydd o siopau ym Mhrestatyn a Llandrillo-yn-Rhos.

Dywedodd Archer wrth yr heddlu ei fod wedi dod o hyd i'r gyllell y tu allan i feddygfa, ac mae ei fwriad oedd mynd ag o i orsaf yr heddlu.

Dywedodd ei gyfreithiwr Roger Thomas ei fod eisoes wedi "treulio llawer mwy o amser yn y carchar nag a fyddai pobl sydd wedi eu carcharu am lofruddiaeth".

Mae'r achosion diweddaraf yn golygu ei fod wedi troseddu 396 o weithiau, y mwyafrif o'r rhain am ladrata.

Fe wnaeth Mr Thomas ddweud fod Archer yn ddyn oedd "wedi torri" a'i fod yn ddibynnol ar sefydliadau er mwyn rhoi strwythur i'w fywyd.