'Anffodus' fod y DUP 'allan ohoni' wrth drafod Brexit

  • Cyhoeddwyd
David Jones
Disgrifiad o’r llun,

David Jones wnaeth arwain ymgyrch Vote Leave yng Nghymru yn y refferendwm

Mae cyn-weinidog Brexit wedi dweud ei bod hi'n "anffodus" fod y DUP wedi teimlo nad oedden nhw wedi bod yn rhan lawn o gytundeb Brexit arfaethedig y llywodraeth.

Fe wnaeth trafodaethau â'r UE daro rhwystr ddydd Llun wedi i'r blaid o Ogledd Iwerddon, sy'n cefnogi'r Ceidwadwyr yn San Steffan, wrthod cynigion ar ddyfodol y ffin â Gweriniaeth Iwerddon.

Dywedodd AS Gorllewin Clwyd, David Jones y dylai'r llywodraeth fod wedi "trafod yn ddwys" gyda'r DUP cyn i Theresa May fynd i Frwsel.

Fe wnaeth y DUP wrthod cynnig ar gyfer cysoni rheoliadau rhwng y Gogledd a'r Weriniaeth - ymgais i osgoi ffin galed rhwng y ddwy wlad wedi Brexit.

'Trafodaethau'n hanfodol'

Dywedodd arweinydd y DUP, Arlene Foster na fyddai'r blaid yn cefnogi unrhyw gynnig fyddai'n golygu datblygu ffin ym Môr Iwerddon, rhwng yr ynys a Phrydain.

Ychwanegodd ei bod ond wedi gweld cynnwys y cytundeb fore Llun.

Yn dilyn y ffrae fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fynnu y dylai unrhyw delerau arbennig oedd yn cael eu cynnig i Ogledd Iwerddon fod ar gael i wledydd eraill y DU hefyd.

Ond mae Ysgrifennydd Brexit Llywodraeth y DU, David Davis wedi mynnu y bydd y wlad gyfan yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar yr un telerau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Arlene Foster nad oedd y DUP wedi gweld cynnwys y cytundeb rhwng llywodraethau'r DU ac Iwerddon nes ddydd Llun

Dywedodd Mr Jones, fu'n weinidog Brexit am bron i flwyddyn ar ôl ymgyrchu o blaid gadael yr UE, y byddai trafodaethau gyda'r DUP dros y dyddiau nesaf yn rhai "hanfodol".

"Y DUP sydd yn dal y cydbwysedd grym yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae eu safbwynt nhw felly yn hollbwysig," meddai wrth raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales.

"Bydden i'n synnu'n fawr pe na bai Downing Street wedi bod yn trafod gyda nhw.

"Ond yn amlwg roedd y DUP o'r farn eu bod nhw rywfaint allan ohoni o ran y trafodaethau, a dwi'n meddwl bod hynny'n anffodus iawn."

Ychwanegodd y byddai modd defnyddio technoleg i sicrhau fod y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth "i bob pwrpas yn anweledig".