Dedfryd oes am lofruddio dyn o Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 26 oed o Wrecsam wedi cael dedfryd o garchar am oes ar ôl pledio'n euog i lofruddio dyn arall o'r dref ym mis Mawrth.
Roedd Jordan Davidson wedi pledio'n euog i lofruddio Nicholas Churton, 67, yn ei gartref a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 23 mlynedd dan glo cyn cael ceisio am barôl.
Yn dilyn y ddedfryd, cyhoeddodd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu eu bod yn cynnal ymchwiliad.
Fe fyddant yn ymchwilio i sut wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ymateb i ladrad honedig ar dŷ Mr Churton, bron i bythefnos cyn i'w gorff gael ei ddarganfod.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Davidson wedi disgrifio diwrnod yr ymosodiad fel "diwrnod gorau ei fywyd" ac wedi cyfeirio at ei hun fel y diafol.
Wrth ei ddedfrydu dywedodd y barnwr Mr Ustus Clive Lewis: "Roedd hwn yn ymosodiad ciaidd ar hen ddyn bregus oedd methu amddiffyn ei hun."
"Roedd yna fwriad i ladd. Roedd hynny'n amlwg oherwydd natur yr arf a'r anafiadau achoswyd gan y macheté."
Cafwyd hyd i gorff Mr Churton fore Llun 27 Mawrth ar ôl i'r heddlu gael eu galw i'w fflat yng Nghlôs Cilgant, Wrecsam.
Roedd ei anafiadau'n gyson â rhai oedd wedi cael eu hachosi gan macheté a morthwl.
Ymddangos yn y llys ddydd Mercher trwy gyswllt fideo o garchar Strangeways, Manceinion ar ol cael ei drosglwyddo yno o Ysbyty Ashworth yn Lerpwl.
Clywodd y llys bod tri seiciatrydd wedi methu cytuno ar ddiagnosis.
Dywedodd ei gyfreithiwr Christopher Tehrani QC bod hi'n glir bod y diffynnydd â chyflwr seiciatryddol difrifol ers ei fod yn saith neu wyth oed, a'i fod wedi cael plentyndod anodd.
Roedd y ffactorau hynny, meddai, yn ei wneud yn ddyn bregus.
Roedd Mr Churton yn adnabyddus fel dyn busnes yn ardaloedd Wrecsam a Chaer, ond ar ôl gwerthu'i fusnesau roedd ei iechyd wedi gwaethygu.
Dywedodd ei deulu eu bod wedi poeni ei fod yn darged hawdd am ei fod o mor fregus.
Lladrad honedig
Fe fydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio i weld a wnaeth Heddlu'r Gogledd wneud digon wrth ymchwilio i honiadau Mr Churton am ladrad yn ei dŷ.
Dywedodd Mr Churton wrth yr heddlu ar 14 Mawrth, fod dyn o'r enw 'Jordan' wedi ei fygwth gyda morthwyl dau ddiwrnod ynghynt, ac wedi dwyn ei oriadau ar ôl iddo adael i'w dŷ er mwyn defnyddio ei doiled.
Fe wnaeth yr heddlu holi Mr Churton ynglŷn â'r digwyddiadau ar 21 Mawrth, a dweud wrtho am ofyn i bobl eraill am gymorth wrth geisio adnabod 'Jordan'.
Ar 23 Mawrth, pedwar diwrnod cyn i'r awdurdodau ddod o hyd i'w gorff, fe wnaeth Mr Churton gysylltu â'r heddlu i ddweud ei fod yn gwybod mai Jordan Davidson oedd y dyn.
Mae pedwar o heddweision ac un aelod o staff yr heddlu wedi cael gwybod fod ymchwiliad troseddol yn cael ei gynnal, ac maent wedi derbyn rhybudd o gamymddwyn esgeulus.
Dyw'r ffaith fod ymchwiliad troseddol yn cael ei gynnal ddim o reidrwydd yn golygu y bydd erlyniad troseddol.
Mae rhybudd o gamymddwyn yn golygu fod ymchwiliad yn cael ei gynnal, nid yw'n golygu fod penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â'r mater.
Fe wnaeth y Comisiwn ddechrau ar eu hymchwiliad yn Ebrill ar ôl i'r achos gael eu cyfeirio atynt gan Heddlu Gogledd Cymru.
Ymchwiliad heriol
Roedd Davidson hefyd wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o ladrata, ceisio lladrata, ceisio achosi niwed corfforol difrifol ac achosi niwed corfforol i aelodau'r heddlu.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod yr ymchwiliad i'r achos wedi bod yn un "heriol" a bod "nifer o fywydau diniwed wedi'u heffeithio gan weithredoedd didrugaredd y dyn hwn".
Fe ymosododd ar blismyn gyda morthwyl wrth gael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac ar swyddogion oedd yn ei gyfweld yn y ddalfa cyn trywanu gwarchodwr carchar gan achosi anaf gwddf sylweddol.
Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Iestyn Davies fod difrifoldeb a lefel troseddau Jordan Davidson yn dangos ei fod "yn unigolyn hynod beryglus a oedd yn barod i droi at droseddu erchyll er mwyn hybu ei ddibyniaeth afreolus ar gyffuriau".
Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Churton ei fod "yn gymeriad caredig, cariadus ac arbennig a gyfoethogodd fywydau pawb a oedd yn ei adnabod.
"Bydd yn ein calonnau am byth."