Dedfrydu dynes am dwyll £55,000 dalodd am wyliau a llawdriniaeth

  • Cyhoeddwyd
Jean WilsonFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jean Wilson ddedfryd o garchar wedi ei ohirio

Mae cyfarwyddwr busnes o Bort Talbot wedi osgoi cyfnod o garchar er iddi bledio'n euog i ddwyn £55,000 drwy dwyll.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Jean Wilson, 58 oed, wedi defnyddio'r arian i dalu am wyliau moethus a llawdriniaeth band gastrig.

Roedd wedi twyllo ei chwmni, sy'n recriwtio athrawon ar gyfer ysgolion anghenion arbennig, drwy greu anfonebau ffug, a rhoi'r arian yn ei chyfrif personol.

Fe wnaeth Wilson wario bron i £10,000 ar wyliau moethus mewn gwestai pum seren i Singapore, Bali a Gwlad Thai.

Cafodd dros £9,000 ei wario ar lawdriniaeth band gastrig a miloedd ar wella ei thŷ ac am ofal ei chi.

Gwyliau moethus

Dywedodd y barnwr Eleri Rees y byddai'r drosedd fel rheol yn golygu cyfnod yn y carchar, ond bod rhaid ystyried problemau iechyd meddwl Wilson.

Ddydd Mercher, clywodd y llys ei bod yn dioddef o iselder ac anhwylder deubegwn.

"Mae'r drosedd yn llawn haeddu cyfnod o garchar," meddai'r barnwr.

"Ond ni allaf anwybyddu'r ffaith fod yna broblemau iechyd sylweddol."

Cafodd ddedfryd o ddwy flynedd wedi ei ohirio am 18 mis.

Yn ogystal bydd rhaid iddi wisgo tag electronig a mynychu rhaglen iechyd meddwl am 12 mis.

Fe fydd gwrandawiad arall yn cael ei gynnal er mwyn penderfynu faint fydd yn rhaid i Wilson ad-dalu cwmni Axcis Education Recruitment, lle'r oedd hi gynt yn rheolwr gyfarwyddwr.