Isetholiad: Bernie Attridge am weld ymgeisydd lleol

  • Cyhoeddwyd
bernie attridge

Mae dirprwy arweinydd Cyngor Sir y Fflint wedi bygwth sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn isetholiad Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy os na fydd Llafur yn dewis ymgeisydd lleol.

Fe ddaw'r isetholiad ym mis Chwefror wedi marwolaeth Carl Sargeant.

Dywedodd Bernie Attridge, oedd yn gyfaill agos i Mr Sargeant, nad yw'n dymuno sefyll, ond fod hynny'n "dibynnu ar bwy fydd ymgeisydd Llafur Cymru".

Mynnodd mai rhywun o'r etholaeth ddylai gael ei ddewis.

'Llawer o ddicter'

Mae Mr Attridge wedi galw ar Carwyn Jones i ymddiswyddo am y modd y deliodd gyda honiadau yn erbyn Mr Sargeant.

Cafodd Carl Sargeant ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol.

"I fod yn onest does dim awydd o gwbl yn Alun a Glannau Dyfrdwy {am isetholiad) - mae llawer o ddicter yma," meddai Mr Attridge.

"O ran fy hun, dwi wedi dweud yn glir nad oes gen i fwriad o sefyll.

"Ond y cafeat i hynny yw bod o'n dibynnu pwy fydd ymgeisydd Llafur Cymru.

"Dwi wedi gweld o'r blaen yn Alun a Glannau Dyfrdwy lle mae pobl yn dod i mewn o nunlle.

"Os nad yw'r person caiff ei ddewis i sefyll yn aelod lleol, yna fe fyddaf yn ymddiswyddo o'r blaid Lafur ac yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol."