Garddwyr Llangollen yn ddig am gynlluniau datblygwr
- Cyhoeddwyd
Mae garddwyr cymunedol yn Sir Ddinbych yn gwrthwynebu cynlluniau allai weld datblygwr yn cymryd rheolaeth o'u plot.
Cafodd Gardd Gymunedol Llangollen ei sefydlu ar safle hanner erw oedd yn eiddo i'r cyngor sir yn 2012.
Mae un o bwyllgorau'r cyngor wedi cynnig rhoi'r plot i'r datblygwr godi tai, ar yr amod y byddai'r datblygwr yn gwneud gwaith ar adeilad hanesyddol Plas Newydd - sy'n cael ei redeg gan y cyngor fel amgueddfa.
Er bod cynnig i sefydlu gardd arall, mae'r garddwyr yn benderfynol o aros ar y safle presennol, gan ddweud eu bod wedi gweithio'n galed i sicrhau ei fod yn addas i gynhyrchu ffrwythau, llysiau a blodau.
Dywedodd y cyngor nad oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi'i wneud eto, a'u bod yn ceisio cydweithio â'r garddwyr.
Mae tua 75 o bobl wedi defnyddio'r safle ers iddo agor, ynghyd â dros 100 o blant ysgol.
Mae'r posibilrwydd o golli'r tir wedi cythruddo'r garddwyr, sy'n dweud nad oedd yna ymgynghori, a'u bod wedi gwneud cais i brynu'r tir ond nad oedd y cyngor yn fodlon comisiynu asesiad i brisio'r safle.
Dywedodd un o'r garddwyr, Warren Davies: "Rydyn ni wedi rhoi cymaint o waith i mewn i'r prosiect yma. Mae'n fuddsoddiad o filoedd o oriau mewn gwaith gwirfoddol.
"Mae ein gwaith caled wedi creu adnodd cymunedol sy'n agored i bawb, a dyw'n costio dim i'r cyngor. Ond mae'n ymddangos bod y cyngor yn fodlon dinistrio hynny."
Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych eu bod yn parhau i drafod â'r garddwyr er eu bod wedi gwrthod y cynnig o safle arall ar gyfer yr ardd gymunedol.
Ychwanegodd llefarydd y bydd grŵp rheoli asedau'r awdurdod yn cwrdd ym mis Ionawr i adolygu'r cynlluniau cyn gwneud penderfyniad.