Rhybudd y gallai eira trwm dydd Sul achosi trafferthion
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd am dywydd garw yn y rhan fwyaf o'r wlad ddydd Sul gyda disgwyl iddi fwrw eira'n drwm dros nos.
Roedd rhybudd melyn am eira a rhew tan 18:00 nos Sadwrn wrth i'r tywydd achosi trafferthion ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd.
Ond mae rhybudd oren - sy'n fwy difrifol - mewn grym o 04:00 bore Sul.
Roedd yr amodau ar rai ffyrdd nos Sadwrn yn parhau i fod yn wael, gyda rhybudd i gymryd gofal ar yr A55 rhwng C26 a C34.
Cafodd trenau eu canslo a'u gohirio ar rwydwaith Cymru a'r Gororau yn ystod dydd Sadwrn, yn dilyn trafferthion rhwng Amwythig a Chriw.
Roedd gwasanaethau yn ne Cymru wedi eu newid neu eu canslo nos Sadwrn, gyda chyngor i deithwyr i wirio os ydy gwasanaethau'n rhedeg os ydyn nhw'n bwriadu teithio ddydd Sul.
Cafodd gwasanaethau bws mewn rhai ardaloedd eu canslo yn ogystal, wrth i ffyrdd yng nghymoedd y de gael eu cau oherwydd yr amodau.
Hyd at 20cm
Mae disgwyl eira trwm ar draws y gogledd, y canolbarth a rhannau o dde Cymru yn gynnar dydd Sul, gyda'r rhybudd oren mewn grym, dolen allanol rhwng 04:00 a 18:00.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd 10cm o eira'n disgyn mewn rhannau helaeth o'r wlad, gyda hyd at 20cm mewn rhai ardaloedd.
Mae disgwyl oedi ar y ffyrdd, rheilffyrdd a'r maesydd awyr, ac fe allai rhai cymunedau gwledig gael eu hynysu gan yr eira.
Yn ogystal â'r rhybudd am eira - sydd ar gyfer y canolbarth a'r gogedd yn bennaf - mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar arfordir y de.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2017