Macclesfield 4-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Moss RoseFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gêm yn cael ei chynnal yn stadiwm Moss Rose

Sgoriodd Macclesfield dair gôl hwyr i drechu Wrecsam yn gyfforddus.

Daeth y gôl agoriadol i'r tîm cartref o droed Scott Wilson wedi chwe munud, cyn i'r tîm o Gymru unioni'r sgôr Scott Boden wedi 74 munud.

Ond sbardunodd hynny gyfres o goliau - dwy mewn pedwar munud i Wilson selio'i hatrig ac un i David Fitzpatrick gydag eiliadau'n weddill.

Mae'n golygu bod Wrecsam yn drydydd yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr, gyda Macclesfield yn llamu i frig y tabl.