Galwad AS am ail refferendwm ar gytundeb Brexit

  • Cyhoeddwyd
brexit cymru

Mae Aelod Seneddol Llafur o Gymru yn galw am ail refferendwm ar y cytundeb Brexit terfynol oherwydd y dylai "pobl Prydain gael y gair olaf".

Mae mesur meinciau cefn Geraint Davies, Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe, yn cynnig y bleidlais ar a ddylid derbyn y fargen rhwng y DU a'r UE.

Os fydd yn cael ei basio, byddai'n golygu y byddai rhaid cynnal ail refferendwm o leiaf dri mis cyn i'r DU adael yr UE ar 29 Mawrth 2019.

Mae Theresa May wedi gwrthod ail refferendwm yn llwyr, ac nid oes gan y blaid Lafur bolisi i'w gefnogi.

Yr wythnos ddiwethaf, fe darodd y Prif Weinidog gytundeb i symud y sgyrsiau Brexit ymlaen o drafod materion gwahanu - hawliau dinasyddion yr UE, 'bil ysgaru' y DU, a ffin Iwerddon - i berthynas newydd ar fasnachu.

Rhoi'r dweud terfynol i'r bobl

Mae'r DU a'r UE yn gobeithio dod i gytundeb ar y fargen Brydeinig derfynol cyn diwedd y broses ymadael sydd i fod i bara dwy flynedd.

Cafodd y broses 'Erthygl 50' ei ddechrau gan Theresa May ar 30 Mawrth 2017.

Fe fyddai mesur meinciau cefn Geraint Davies yn rhoi'r dewis i bleidleiswyr naill ai i dderbyn y cytundeb neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae mesur Geraint Davies, Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe, yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun

Dywedodd Mr Davies fod "awydd cynyddol gan ASau i roi'r dweud terfynol i'r bobl" ond ar hyn o bryd mae'n annhebygol y bydd y mesur yn denu digon o gefnogaeth yn Nhŷ'r Cyffredin.

"Nid yw'r cyhoedd yn ymddiried mewn gwleidyddion sy'n gwneud cytundebau y tu ôl i ddrysau caeedig, yn enwedig pan ei fod yn edrych yn debyg mai agwedd y llywodraeth yw i adael yr UE beth bynnag yw'r gost.

"Fe ddylai pobl Prydain gael y gair olaf ac nid cael eu gorfodi i dderbyn cytundeb na fyddai'n elwa teuluoedd y DU," meddai.

Gwrthwynebiad i Brexit

Dywedodd yr Athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi bod yn ymchwilio i agweddau'r cyhoedd ar ail refferendwm, bod y farn gyhoeddus yng Nghymru "wedi newid" yn ystod y misoedd diwethaf.

"Mae wedi symud yn y bôn, oherwydd bod llawer iawn o bobl a bleidleisiodd i aros y llynedd, a oedd wedi meddwl yn bennaf, 'wel, iawn, mae'r penderfyniad wedi'i wneud, dydyn ni ddim yn ei hoffi ond dyna ni', wedi dechrau newid eu hagwedd.

"Mae eu gwrthwynebiad i Brexit wedi dechrau cryfhau unwaith eto ac felly erbyn hyn rydym yn gweld cydbwysedd yng Nghymru gyda'r un faint o bobl yn cefnogi ac yn gwrthwynebu ail refferendwm," meddai.