Rhybudd melyn i deithwyr am rew ar y ffyrdd dros Gymru

  • Cyhoeddwyd
Tregaron

Mae rhybudd i deithwyr fore Mawrth yn sgil rhybudd melyn am rew dros rannau helaeth o Gymru.

Mae rhybudd y Swyddfa Dywydd, dolen allanol am rew ar gyfer y rhan fwyaf o'r wlad, heblaw am arfordir y gogledd a Sir Benfro.

Ni wnaeth cannoedd o ysgolion agor ddydd Llun oherwydd y tywydd, ac mae dros 320 o ysgolion eisoes wedi dweud na fyddan nhw'n agor ddydd Mawrth, gyda'r nifer uchaf ym Mhowys.

Yn ôl y cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Sue Charles, roedd y tymheredd wedi disgyn i -12C dros nos mewn mannau, fe gafodd y tymheredd isaf ei gofnodi ger Rhaeadr Gwy, ym Mhowys.

Dyma'r tymheredd isaf i gael ei gofnodi yng Nghymru ers 2010.

Dywedodd Trenau Arriva Cymru fod y llinell rhwng Llanelli a Craven Arms wedi cau trwy gydol ddydd Mawrth oherwydd "nifer o achosion o goed neu ganghennau'n syrthio ar y rheilffordd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r tymheredd ddisgyn cyn ised â -12C mewn mannau dros nos Lun

Gallwch weld pa ysgolion sydd wedi eu heffeithio yn eich ardal chi drwy'r linciau isod:

Wrth i gynghorau Cymru ymdrechu i gadw'r ffyrdd yn glir a diogel, mae un cyngor wedi adrodd fod un o'u lorïau graeanu wedi cael ei ddifrodi dros y penwythnos.

Roedd rhywrai wedi taflu bricsen, gan falu ffenestr flaen y lori yn Sir Caerffili.

Mae'r cyngor wedi cadarnhau fod yr heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd un o gerbydau graeanu Cyngor Caerffili ei fandaleiddio dros y penwythnos

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod disgwyl i rew ffurfio yn hwyr nos Lun a dros nos, gydag amodau gyrru anodd ar ffyrdd sydd heb eu trin.

Ychwanegodd y rhybudd bod anafiadau'n bosib ar lwybrau cerdded a seiclo sydd heb eu graeanu.

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am y ffyrdd ar gael ar wefan Traffig Cymru, dolen allanol a'r diweddaraf ar y rheilffyrdd ar wefan Trenau Arriva Cymru, dolen allanol.