Trafod diffyg llety i'r di-gartref yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarfodydd brys yn cael eu cynnal gan arweinwyr cyngor yn Wrecsam er mwyn ceisio sicrhau fod llety ar gael i bobl di-gartref yn y tywydd oer diweddar.
Fe fethodd naw o bobl a chael lle yn un o lochesi'r dref nos Lun am nad oedd lle iddyn nhw.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, yr aelod sydd â chyfrifoldeb dros dai ar yr awdurdod, fod catrefi Tŷ Nos a Sant Ioan yn llawn ers nos Wener diwethaf.
Nos Lun, aeth 31 o bobl i Dŷ Nos, ond bu'n rhaid gwrthod lle i naw ohonyn nhw.
Ychwanegodd nad oedd staff eirioed wedi profi cymaint o alw, a bod ymdrechion ddydd Mawrth i geisio sicrhau na fyddan nhw'n cael eu gadael allan yn yr oerfel eto.
Yn ôl Mr Griffiths roedd nifer o bobl wedi bod yn cysgu o flaen drysau siopau yng nghanol Wrecsam dros y penwythnos, ond mae'n debyg iddyn nhw ddweud wrth swyddogion cyngor eu bod nhw'n fodlon aros lle'r oedden nhw.
Dywedodd: "Fel allwch chi ddychmygu, allwn ni ddim gorfodi pobl i gymryd yr help, ond fod y cyfle yna os oedden nhw ei eisiau."
Ychwanegodd bod llawer o waith yn cael ei wneud yn y cefndir i ddarparu cymorth a chyngor i bobl di-gartref, a bod hynny'n un o flaenoriaethau'r awdurdod.
Yn ôl yr elusen Housing Justice Cymru, Wrecsam sydd â'r nifer uchaf o bobl yn cysgu allan ar y stryd yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd.