Bydd hwn yn 'Ddolig gwahanol i rai

  • Cyhoeddwyd

Am resymau hapus, bydd y Nadolig hwn yn dipyn gwahanol i ddau deulu...

Nadolig cyntaf fel pâr priod

Ffynhonnell y llun, Rhiannon Pritchard

Fe fydd Rhiannon Pritchard a Richard Vaughan, a briododd ym mis Mai eleni, yn treulio dydd Nadolig gyda'i gilydd am y tro cynta':

Rhiannon: "O'dd e'n benderfyniad eitha' anodd i wybod ble i fynd"

Roedd 'na drafod mawr, ble o'n ni'n mynd i dreulio ein Nadolig cyntaf ni fel pâr priod. O'dd e'n benderfyniad eitha' anodd i wybod ble i fynd.

Fe briodon ni nôl ym mis Mai eleni, ac er ein bod ni wedi byw gyda'n gilydd am bedair blynedd, dydyn ni erioed wedi treulio dydd Nadolig gyda'n gilydd. Mae Richard fel arfer gyda'i deulu fe yn Rhydaman a finne gyda fy nheulu i yn Llanddarog ar bwys Caerfyrddin.

Fe wnaethon ni feddwl treulio'r Nadolig jyst ni'n dau, ond wedyn feddylion ni y gallen ni fod bach yn bored erbyn amser cinio!

Rydyn ni wedi penderfynu mynd at fy nheulu i, gan bod rhieni Rich yn mynd at ei chwaer sydd newydd gael babi.

Fe fydd e bach yn od, fi'n credu, ond mewn ffordd neis! Mae gan fy nheulu i lot o draddodiadau bydd Richard ddim yn gyfarwydd â nhw. Tan eleni roedd fy mrawd a fi'n dal i agor ein anrhegion yn y bore gyda Mam a Dad, ond falle wnawn ni ddim hynna eleni!

Mae Richard yn gyfarwydd â chael cinio mawr gyda thri gwahanol math o gig ond twrci sydd yn ein tŷ ni bob blwyddyn.

Mae mwy o draddodiadau gan fy nheulu i adeg y Nadolig na theulu Rich, rydyn ni'n mynd i'r capel yn y bore ac yn mwynhau canu carolau, ac mae fy Anti ac Wncwl yn trafeili lawr o Lundain ar y dydd. Do'n i ddim wir am adael y traddodiadau hynny i fynd.

Richard: "Mae pethau yn newid gydag amser."

Eleni fydd y Nadolig cynta' i fi dreulio yn gyfangwbl heb fy nheulu i, ar ôl 36 o flynydde o draddodiadau. Eleni fydd agor anrhegion a bwyta cinio ar amseroedd gwahanol, gwylio rhaglenni gwahanol ar y teledu... ond dyna fe, mae pethau yn newid gydag amser.

Un traddodiad blynyddol sydd gyda fi a fy mrawd, yw tua 9 o'r gloch ar nos Nadolig, ni'n mynd i'r gegin a chael cystadleuaeth pwy sy'n gallu gwneud y frechdan mwya' ridiculous, gyda phopeth allwn ni roi ynddo fe, o'r cig i'r caws a'r paté.

Bydd yn rhaid i fi berswadio brawd Rhiannon i wneud e 'da fi. Mae e'n chwaraewr rygbi felly fi'n siŵr bydd modd ei berswadio!

Nadolig cyntaf y babi

Mae Catherine a'i gŵr Rhys yn bwriadu treulio'r Nadolig yng Nghaerdydd am y tro cynta' eleni, gyda'u babi chwe mis oed, yn hytrach nag ymweld â'u teuluoedd:

"Fel arfer ni'n mynd i Sir Benfro at fy mam a nhad, ond eleni rydyn ni wedi penderfynu aros yng Nghaerdydd, jyst ni'n tri. Fi, y gŵr ac Emlyn y mab.

"Mae'r Nadolig eleni yn lot fwy cyffrous gan bod Emlyn gyda ni, rydyn ni wedi bod â fe i weld Siôn Corn a fi'n meddwl am ddechrau traddodiadau bach ein hunain.

Ffynhonnell y llun, Catherine Sellwood
Disgrifiad o’r llun,

Ymweliad cyntaf Emlyn â Siôn Corn

"Fi'n bwriadu 'neud bocs Noswyl Nadolig gyda phyjamas bach ac ambell i beth bach arall iddo, a rydyn ni'n darllen storis Nadoligaidd iddo fe bob nos o'r adfent, cyn mynd i gysgu.

"Mae ngŵr i'n awyddus i ddechrau traddodiad newydd o eleni ymlaen trwy gwcan starter i'r cinio Nadolig. Ac eleni fydd y tro cynta' i fi gwcan y twrci!

"Mae'n draddodiad yn fy nheulu i i agor anrhegion o dan y goeden ar ôl cinio, felly rydw i am barhau gyda hwnna wrth i Emlyn fynd yn hŷn.

"Mae'n gyfnod cyffrous, newydd. Mae lot o bobl yn ffili credu pam ein bod ni mo'yn bod jyst y tri ohonon ni, ond o'n i'n meddwl pryd wyt ti'n dechre 'neud rhywbeth yn wahanol? Feddylion ni nawr ein bod ni wedi cael babi ei fod yn amser da. Fi'n edrych ymlaen i fod jyst ni'n tri achos allwn ni fynd ar ein amserlen ni ac ymlacio.

Ffynhonnell y llun, Catherine Sellwood

"Byddwn ni'n cael brecwast a chinio yn y tŷ, mynd am dro bach rownd Grangetown yng Nghaerdydd, ac agor ein anrhegion ar ôl cinio. Mae Emlyn wedi dechre bwyta bwyd solid erbyn hyn so bydd e'n siŵr o gael blas ar y cinio 'Dolig hefyd.

"Bydd Siôn Corn yn dod â draenog sy'n siglo iddo fe, a fi'n gobeithio am bach fwy o gwsg!"