18,000 awr gan wirfoddolwyr Eglwysi i helpu'r digartref

  • Cyhoeddwyd
Pobl Digartref
Disgrifiad o’r llun,

Wrecsam sydd gyda'r nifer uchaf o bobl yn cysgu ar y stryd yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd

Fe wnaeth Eglwysi ddarparu llety ar gyfer 135 o bobl di gartref y llynedd gyda gwirfoddolwyr yn rhoi 18,000 awr i'w cynorthwyo, yn ôl ffigyrau.

Yn 2015-16 fe wnaeth 20 eglwys yng Nghaerffili, Casnewydd ac Abertawe agor eu drysau ac ers 2014 mae plwyfi eglwysi wedi rhoi tir i greu 30 i gartrefi fforddiadwy.

Mae Housing Justice Cymru wedi casglu data cyn ei sioe deithiol ym mis Ebrill a Mai.

Bydd y daith yn cychwyn yn Wrecsam, ble cafodd 61 o bobl eu cyfri dros gyfnod o bythefnos ym mis Hydref yn cysgu ar y stryd yn y dref, dyma'r ffigwr uchaf yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd.

Dywedodd Esgob Llanelwy, Gregory Cameron: "tydi digartrefedd nid yn unig yn effeithio pobl ond cymunedau a chymdeithasau yn ehangach.

"Yr unig ffordd ymlaen yw i gymdeithasau ddod at ei gilydd i daclo digartrefedd."