Dolig dramor, Dolig adre'
- Cyhoeddwyd
Ble fyddwch chi'n dathlu dros yr Ŵyl? Dyma i chi straeon am deuluoedd fydd yn treulio'r Nadolig mewn lleoedd gwahanol eleni:
Mae Llinos Dafydd a'i phartner Ifan Morgan Jones o Groeslan ger Llandysul a'u plant Mari, Magw a Jano yn bwriadu treulio'r Nadolig yn Hurghada, dinas ar lannau'r Môr Coch yn yr Aifft. Yma, mae Ifan yn esbonio:
Mae Magw yn dioddef o asthma eithaf gwael sy'n gwneud iddi beswch yn ddi-baid gyda'r nos rhwng tua mis Tachwedd a mis Mawrth.
Rydw i'n dioddef o SAD (seasonal affective disorder) pan mae'r dyddiau yn byrhau yn y gaeaf hefyd. Y nod wrth fynd i'r Aifft yw cael digon o wres i atal peswch Magw a digon o heulwen i fi hefyd.
Fe fydd hi tua 20 gradd yno, tua'r un fath â'r haf yma yng Nghymru. 'Da ni ddim yn hoffi tywydd rhy boeth!
Rydan ni wedi bod yn siarad am fynd i wlad boeth yn ystod y gaeaf am rai blynyddoedd. Rydan ni i gyd yn hoff o gael Nadolig traddodiadol adref ond rhwng tymor yr ysgol a thymor Prifysgol Bangor (lle'r ydw i'n gweithio) dyma'r unig adeg yn ystod y gaeaf oedd yn gyfleus.
Roedden ni wedi edrych ar sawl lle o Giwba, i Cape Verde, i Morocco ond Yr Aifft oedd y lle oedd yn cyfuno'r gorau o ran pris, cyfleusterau, cynhesrwydd a sicrwydd y bydd yr haul yn gwenu. Rydw i wedi bod yn y wlad o'r blaen, yn teithio rhwng Luxor ac Aswan, felly mae gen i ryw syniad beth i'w ddisgwyl.
Mae'r Aifft ychydig yn rhatach oherwydd bod twristiaid yn tueddu i gadw draw yn sgil y terfysg diweddar yn y wlad. Ond mae'n nhw'n cadw gofal da iawn o'u twristiaid.
Fe fydd ychydig yn rhyfedd treulio adeg o'r flwyddyn sydd yn cael ei gysylltu gyda bod yn glyd a chynnes o flaen y tân a chanu carolau, mewn gwlad boeth Mwslemaidd, a bod ar wahân i weddill y teulu. Ond y cynllun ar hyn o bryd fydd dathlu'r Nadolig, a chael anrhegion gan Siôn Corn, ar ôl dod adre' yn y flwyddyn newydd. Felly gobeithio y byddwn ni'n cael y gorau o'r ddau fyd!
Mae Llinos Williams, ei phartner Osian a'u merch fach Begw, yn treulio chwe mis yn teithio'r byd ar hyn o bryd, ac mi fyddan nhw'n treulio'r Nadolig eleni yn Kuala Lumpur ym Malaysia....
Fe fyddwn ni wedi cyrraedd Kuala Lumpur ym Malaysia erbyn Dolig. Mae ffrind i ni, Iolo, sy'n gweithio ym Melbourne, Awstralia yn ymuno efo ni yno ar noswyl Nadolig ac yna fe fydd dwy ffrind, Ceren a Sioned, yn ymuno ar gyfer y flwyddyn newydd.
Gan fod Begw yn dair oed, 'dyn ni eisiau iddi hi gael rhywfaint o brofiad Nadoligaidd felly 'da ni am fynd â hi i Snowalk ar noswyl Nadolig.
Mae'n edrych yn lle grêt i blant - pentref eira ffug lle mae modd adeiladu dyn eira a slejio. Mae 'na lot o'r gwestai yn cynnig buffets Nadoligaidd felly rydan ni am fynd i un o'r rheini i gael ein fix o dwrci a mins peis!
Siŵr o fod nawn ni wylio Elf rhyw ben yn ystod y dydd hefyd achos 'da ni bach yn obsessed efo'r ffilm honno. 'Da ni'n gobeithio ffeindio ychydig bach o gaws a gwin coch rhywle fel trît, y ddau beth 'da ni'n fethu fwyaf ar ein taith!
Gobeithio y bydd Siôn Corn yn ymweld â Begw, os mae'n hogan dda 'de! Mae hi wedi anfon llythyr yn dweud wrtho mai yn Kuala Lumpur fydd hi 'leni, ac nid Grangetown yng Nghaerdydd, gan ofyn am key-ring eliffant - dwi'n siŵr neith o fanejo hynny.
Fel arfer 'da ni'n rhannu ein hamser rhwng y ddau deulu; noswyl Nadolig a chinio yn Y Rhyl efo teulu Osian - yna yn mynd i Sir Fôn yn y prynhawn i dreulio'r noson a dydd San Steffan gyda'n nheulu i. Bydd eleni yn reit wahanol!
Un sy'n byw yn Dubai, a sydd wedi penderfynu dod adre' i ddathlu'r Nadolig gyda'i deulu a'i ffrindiau, ydy Geraint Passmore o Radur ger Caerdydd.
Symudais allan i Dubai ddwy flynedd yn ôl. Athro cynradd ydw i ond rydw i wedi dechrau rôl newydd 'leni fel cyfarwyddwr chwaraeon yn yr ysgol, sy'n rhoi cyfle i mi ddatblygu rhaglen chwaraeon yr ysgol. Dwi'n byw yn ardal Jumeirah Village Circle gyda tua 30 o athrawon eraill.
Un o Radur ger Caerdydd ydw i'n wreiddiol. Cefais fy magu yno a rwy'n dychwelyd ar bob cyfle, ac yno at fy rhieni fyddai'n mynd dros y Nadolig.
Does dim cwestiwn mai adre' fydda i ar ddydd Nadolig. Mae teulu mor bwysig i fi felly rwy'n edrych ymlaen i dreulio'r dydd o flaen y tân ar ôl bod yn y capel yn dal lan gyda ffrindie agos.
Fel arfer dwi'n dod nôl allan i Dubai dros y flwyddyn newydd, ond eleni mae gen i dair wythnos o wyliau, ac fe fydda i'n dathlu'r flwyddyn newydd gyda ffrindiau mewn priodas. Bydd hi'n wych dathlu gyda llawer o ffrindie agos.
Mae sawl ffrind gen i o Gymru yn Dubai, mae wynebau cyfarwydd allan yma yn bwysig iawn i setlo ac i droi atyn nhw pryd mae angen.
Mae pobl yn dathlu'r Nadolig yn Dubai, ond mae 'na deimlad eitha' artiffisial, felly dwi methu aros i fynd adre', gwisgo siwmper Nadoligaidd, cymdeithasu gyda ffrindiau a gwylio'r Gleision yn yr oerni!
Hefyd o ddiddordeb: