Gŵyl Tafwyl yn dychwelyd i Gastell Caerdydd yn haf 2018
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Tafwyl wedi cyhoeddi y bydd yr ŵyl yn dychwelyd i Gastell Caerdydd yn haf 2018.
Llynedd cafodd yr ŵyl ei symud o'r castell i gaeau Llandaf yng nghanol y ddinas, gyda dros 38,000 o bobl yn mynychu.
Bydd y digwyddiadau eleni yn cael eu cynnal ar benwythnos 30 Mehefin a 1 Gorffennaf - ychydig dros fis cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd ymweld â'r brifddinas.
Dywedodd y trefnwyr y byddai'r ŵyl am ddim eto, a bod "croeso mawr i bawb - siaradwr Cymraeg neu beidio".
Gŵyl Ffrinj
Cafodd Tafwyl ei sefydlu yn 2006, ac roedd yn wreiddiol yn ddigwyddiad blynyddol yn nhafarn y Mochyn Du cyn symud i'r castell yn 2012.
Mae disgwyl i'r artistiaid fydd yn perfformio ar y prif lwyfan gael eu cyhoeddi ym mis Chwefror 2018.
Fel yr arfer, bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys digwyddiadau llenyddol, celfyddydol, chwaraeon a chomedi, ac ardal i blant.
Yn ogystal, bydd digwyddiadau Gŵyl Ffrinj Tafwyl yn cael eu cynnal o 23 Mehefin ymlaen, yn arwain at y penwythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2017