Angen cymorth i dyfu cynllun gwastraff bwyd Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
BwydFfynhonnell y llun, Aber Food Surplus
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl archfarchnad yn Aberystwyth nawr yn darparu bwyd i'r cynllun i gael ei ail-ddosbarthu

Mae gwirfoddolwyr sy'n ceisio lleihau gwastraff bwyd yn Aberystwyth yn dweud eu bod angen cyflogi gweithiwr oherwydd galw cynyddol am y gwasanaeth.

Ers Awst 2016 mae Aber Food Surplus yn casglu bwyd sydd dal yn iawn i'w fwyta ond fydd ddim yn cael ei werthu mewn siopau, a'i ail-ddosbarthu i elusennau a chymdeithasau gwirfoddol.

Yr amcangyfrif yw bod y cynllun wedi arbed 1.7 tunnell o fwyd rhag cael ei wastraffu dros y pedwar mis diwethaf.

Nawr mae'r trefnwyr wedi gwneud cais am arian i gyflogi cydlynydd i ddelio gyda'r llwyth gwaith.

Cynnydd yn y galw

Dywedodd un o sylfaenwyr y cynllun eu bod "wrthi chwech i saith diwrnod yr wythnos".

"Rydyn ni'n casglu bwydydd o archfarchnadoedd Morrisons a Tesco a siopau eraill ar wahanol adegau o'r wythnos, ac yn eu storio mewn ystafell sydd wedi cael ei roi i ni gan Dai Ceredigion," meddai Chris Woodfield.

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r mudiadau gwirfoddol sy'n derbyn y bwyd ydy Canolfan Fethodistaidd St Paul's yn Aberystwyth

"Mae gyda ni oergelloedd a rhewgelloedd, ac yn yr ystafell honno ry'n ni'n pwyso ac yn cofnodi'r holl fwydydd, cyn eu dosbarthu'r diwrnod canlynol."

Ychwanegodd bod "rhwng pump a 10 o wirfoddolwyr sy'n cynorthwyo gyda'r dosbarthu", ond wrth i'r galw gynyddu, dywedodd bod yr "amser wedi dod i ni wneud cais am arian er mwyn i rywun allu gweithio ar y cynllun yn barhaol".

'Hynod brysur'

Un o'r grwpiau sy'n derbyn bwyd ydy caffi yng Nghanolfan Methodistaidd St Paul's yn Aberystwyth.

Ers mis Medi mae'r eglwys wedi bod yn cynnal caffi wythnosol lle mae'r cwsmer yn penderfynu faint maen nhw'n ei dalu am y pryd.

"Mae wedi bod yn hynod brysur yma yn y tri mis ers i ni gychwyn y caffi 'Talwch fel y gwelwch'," meddai Ruth Flatman, sy'n gweithio yn y ganolfan.

"Ry'n ni wedi cael hyd at 40 o bobl yn dod yma i'r ciniawau, ac amrywiaeth o bobl hefyd - rhai yn bobl leol, eraill yn ddigartref."

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen pedwar o wirfoddolwyr i baratoi'r prydau yng Nghanolfan St Pauls bob wythnos

Ychwanegodd: "Arbrawf oedd hwn i gychwyn, ond gan fod yna alw, o fis Ionawr ymlaen fe fyddwn ni'n cynnal y caffi bob wythnos.

"Mae'r ffaith bod ni'n gweithio ar y cyd gydag Aber Food Surplus yn dda i ni i gyd.

"Maen nhw'n chwilio am lefydd sydd â cheginau lle byddai modd paratoi'r bwyd, ac rydyn ni'n chwilio am fwyd i'w rannu gyda phobl."

'Cymorth go iawn'

Ymhlith yr elusennau a grwpiau sy'n elwa o'r cynllun mae Byddin yr Iachawdwriaeth, Cymdeithas Gofal Ceredigion, Y Wallich, MIND Aberystwyth, Aberaid a Chymdeithas Tai Gorllewin Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r holl brydau sy'n cael eu cynhyrchu o'r bwydydd yn rhai llysieuol

Dywedodd un arall o'r sylfaenwyr, Heather McClure: "Dyma front line environmentalism. Mae hwn yn gymorth go iawn i bobl, yn gymorth brys ar adegau hefyd.

"Ond mae pob diwrnod yn wahanol. Ambell ddiwrnod mae ganddon ni lwythi o gynnyrch, ddiwrnod arall does ganddon ni ddim byd, ac mae hynny'n gallu bod yn anodd, achos mae'r galw yno o hyd.

"Fe fyddai cael cymorth ariannol yn ein caniatáu i dyfu, a gobeithio darparu cyflog fel bod modd i ni weithio arno yn iawn."