Heddlu arfog wedi'u galw i ddigwyddiad yn Nolgellau

  • Cyhoeddwyd
gwarchae

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud eu bod wedi delio â digwyddiad yn Nolgellau ble cafodd swyddogion arfog eu galw.

Cafodd Sgwâr Eldon yng nghanol y dref ei chau yn dilyn adroddiadau fod dyn, oedd o bosib ag arf, mewn adeilad cyfagos.

Dywedodd perchennog siop leol, Dylan Rowlands fod yr heddlu wedi stopio traffig a bod sawl cerbyd wedi eu galw i'r digwyddiad.

Erbyn hyn mae'r heddlu wedi dweud fod y digwyddiad wedi dod i ben yn ddiogel.

Mewn datganiad brynhawn Mercher, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Ychydig cyn 11:00 fore Mercher fe wnaeth Heddlu'r Gogledd ymateb i adroddiadau o ffrae ddomestig mewn fflat yn Sgwâr Eldon, Dolgellau.

"Roedd pryder am ddiogelwch y rhai oedd yno... cafodd swyddogion arbenigol eu galw i gynorthwyo ac i warchod y cyhoedd.

"Yn dilyn ymchwiliad brys daeth yr heddlu o hyd i'r trigolion ac rydym yn gallu cadarnhau bod pawb yn ddiogel ac yn iach."

Dywedodd Dylan Rowlands, sy'n rhedeg siop yn y dref, ei fod wedi gorfod cau'r siop am gyfnod oherwydd y digwyddiad.

Nid oedd yn sicr yn union beth oedd yn digwydd, ond dywedodd: "Mae heddlu arfog yn y sgwâr a thua pedwar car heddlu. Mae traffig wedi stopio ac rydan ni wedi cau'r siop."