'Data allweddol' i helpu gŵydd prin Ynys Las i oroesi
- Cyhoeddwyd
Mae tagiau electronig sydd wedi'u gosod ar rai o adar mwyaf prin Ewrop wedi darparu "data allweddol" allai helpu diogelu dyfodol y rhywogaeth, medd ymchwilwyr.
Mae'r RSPB yn amcangyfrif bod poblogaeth gwyddau talcen-wen yr Ynys Las yng ngwarchodfa Ynyshir ger Machynlleth wedi gostwng 83% ers 1990.
Prin yw'r astudiaethau sydd wedi'u cynnal ar yr adar, ond mae ymchwil gafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru wedi darparu gwybodaeth newydd sy'n cael ei ddisgrifio fel "llygedyn o obaith".
Gwarchodfa Ynyshir yw'r unig fan yng Nghymru lle mae'r gwyddau dirgel yn dewis treulio'r gaeaf.
Poblogaeth isaf ers 1985
Fe wnes i ymweld am y tro cynta' ar ddechrau 2017, pan oedd partneriaeth o elusennau cadwriaethol wedi dal a thagio dau aderyn benywaidd.
Eu bwriad oedd deall mwy am eu symudiadau yn aber Afon Dyfi a monitro eu mudiad yn ôl i feysydd bridio ar yr Ynys Las yn y gwanwyn.
Y cyfrif uchaf a wnaed bryd hynny oedd 22 o adar, o'i gymharu â rhwng 150 a 200 o wyddau fyddai'n dod yn rheolaidd i Ynyshir yn y 1980au a 1990au.
Ar draws y byd, yr amcangyfrif diweddaraf o boblogaeth gwyddau talcen-wen yr Ynys Las oedd 18,879 - yr isaf ers gwanwyn 1985, a dirywiad amlwg o'r amcangyfrif diwethaf o 20,797 yng ngwanwyn 2014.
Flwyddyn yn ddiweddarach, mae 25 wedi dychwelyd i Ynyshir y gaeaf hwn, ac yn ôl yr ymchwilwyr sydd ynghlwm â'r prosiect gwerth £24,000 maen nhw wedi cael eu gwobrwyo â chyfoeth o ddata gwerthfawr.
Mae'r tagiau electronig yn galluogi'r tîm i fonitro symudiadau'r adar funud wrth funud.
'Cyflwr gorau posib'
Dywedodd Carol Fielding, un o reolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr ardal, fod y rheoleiddiwr amgylcheddol yn gwybod bellach am y tro cyntaf "pa lefydd mae'r adar yn eu defnyddio, ble maen nhw'n bwydo, ble maen nhw'n clwydo".
"Bydd y data yma'n hollbwysig i ni at y dyfodol achos y byddwn ni'n gallu rheoli'r aber ar eu cyfer nhw a sicrhau eu bod yn hedfan 'nôl i'r Ynys Las yn y cyflwr gorau posib ar gyfer bridio."
Eglurodd Derek Williams o'r Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydeinig, un arall o'r partneriaid sy'n rhan o'r prosiect, fod newidiadau i'r ffordd mae'r cynefin yn cael ei reoli yn sgil y data newydd yn cael effaith yn barod.
Mae'r gwyddau'n ffyddlon iawn i ambell gae a chors, ac mae'r tîm wedi bod yn samplo'r llecynnau rheiny i ddeall mwy am y llystyfiant y mae'r adar yn ei ffafrio.
"Mae pethau wedi dechrau a be 'da ni'n mynd i wneud yw gwella'r cynefin, a gwneud yn siŵr bod gan y gwyddau lond eu boliau cyn eu bod nhw'n gadael Cymru," meddai Mr Williams.
"Gobeithio y daw nhw'n ôl y flwyddyn nesa' wedyn gyda chynyddiad sylweddol yn eu niferoedd nhw."
Eglurodd Danny Wyn Griffith o'r RSPB mai ond ambell aderyn sy'n tueddu i fod mewn cyflwr digon da i allu bridio pan eu bod nhw'n cyrraedd yr Ynys Las ar hyn o bryd, ac mae gwyddonwyr yn credu bod hynny'n un rheswm bod eu nifer yn dirywio.
Dangosodd y cofnodion bod un o'r gwyddau gafodd eu tagio wedi nythu am bedair wythnos yn yr Ynys Las, ac fe gafodd ei gweld maes o law yng Ngwlad yr Iâ yn yr haf gyda phedair o wyddau bychain.
Ond methodd yr ail ŵydd â bridio.
'Sicrhau dyfodol'
Ychwanegodd Mr Griffith bod y data'n awgrymu bod newid hinsawdd yn cyfrannu at drafferthion y gwyddau, gyda'u meysydd bridio yn rhewi'n hwyrach na'r arfer gan olygu bod yn rhaid i'r gwyddau addasu'r amser o'r flwyddyn y maen nhw'n bridio.
"Mae'n glir bod newidiadau efo'r hinsawdd yn cael rhyw fath o effaith arnyn nhw, ac i'w weld yn effeithio lle maen nhw'n setlo yn yr Ynys Las," meddai.
"Drwy fonitro eu symudiadau nhw ry'n ni'n darganfod lot mwy ynglŷn â'r gwyddau, a'n gobaith ni ydy sicrhau bod 'na ddyfodol iddyn nhw, nid dim ond yma yng Nghymru, ond ymhellach hefyd."
Ymysg y penawdau eraill o gasgliadau'r gwaith ymchwil mae'r ffaith bod y gwyddau sy'n gaeafu yng Nghymru wedi'u cofnodi am y tro cyntaf yn cymysgu gyda phoblogaethau eraill o'r Iwerddon a'r Alban.
Fe wnaeth grŵp gwyddau Ynyshir ynghyd â grŵp o'r Alban orffwys yng Ngwlad yr Haf ar eu ffordd i'r Ynys Las.
Ar ôl treulio'r gaeaf yng Nghymru, fe wnaeth un o'r gwyddau oedd wedi'u tagio hedfan i Wexford, ac mae bellach ar Ynys Coll yn Yr Alban.
Mae Partneriaeth Gwyddau Talcen-wyn yr Ynys Las yn dweud bod llawer mwy i'w ddarganfod wrth iddyn nhw barhau i fonitro symudiadau'r gwyddau.
"Mae'n hynod gyffrous," meddai Ms Fielding.
"Mae nifer y gwyddau sydd wedi dychwelyd i Gymru eleni wedi cynyddu am y tro cyntaf mewn nifer o flynyddoedd. Mae gennym ni lygedyn o obaith erbyn hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2017