Neges Nadolig Carwyn Jones yn sôn am 'flwyddyn anodd'

  • Cyhoeddwyd
Neges nadolig Carwyn Jones 2017Ffynhonnell y llun, Welsh Government
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones: "Rydyn ni wedi colli ffrindiau da"

Yn ei neges Nadolig mae'r Prif weinidog wedi sôn am "flwyddyn anodd".

Fe wnaeth hefyd nodi uchafbwyntiau fel ugain mlynedd ers y bleidlais ar ddatganoli, rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd a record y Llywodraeth ar nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru.

Ond mae hefyd yn sôn am farwolaethau y cyn weinidog cabinet Carl Sargeant a'r cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan.

"Eleni, rydyn ni, eu teuluoedd a phawb oedd yn eu hadnabod yn gweld eu heisiau bob dydd, ac mae bwlch mawr ar eu hôl i'r genedl yn gyfan.

Dywedodd hefyd y byddai yn "meddwl am bawb sydd wedi colli anwyliaid y Nadolig yma".

Disgrifiodd Carwyn Jones 2017 fel "blwyddyn brysur, anwadal ac - ar adegau - anodd tu hwnt.

"Eleni oedd ugain mlwyddiant datganoli, ac roedd hynny'n gyfle i ni edrych yn ôl ar ein llwyddiannau mwyaf - trawsnewid yr economi, ailadeiladu ysgolion a cholegau, ac arwain y ffordd o ran rhoi organau ac ailgylchu.

Ychwanegodd bod Cymru yn "wlad fach, hyderus, bellach â llais mawr i siarad dros ei hun".

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y Prif Weinidog Carwyn Jones yn croesawu rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr i Gaerdydd

Dywedodd y Prif Weinidog bod "Caerdydd yn falch iawn o gael cynnal prif ddigwyddiad chwaraeon y flwyddyn, sef rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Roedd llygaid y byd ar Gymru - ac unwaith eto, roedd y digwyddiad yn llwyddiant".

Ar ddiwedd y neges roedd Carwyn Jones yn annog undod. Dywedodd: "Gadewch i ni ddod at ein gilydd yn 2018 a dechrau'r Flwyddyn Newydd â neges o heddwch a chymod, er mwyn cyd-dynnu a gweithio gyda'n gilydd i adeiladu gwell Cymru i bawb."

Bydd ymchwiliad yn cael ei arwain gan farnwr yn ymchwilio i'r amgylchiadau wnaeth arwain at farwolaeth Mr Sargeant ym mis Tachwedd.

Cafodd Aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy ei ddarganfod yn farw yn ei gartref bedwar diwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo gan Mr Jones wedi honiadau o ymddygiad amhriodol.

Mae ymchwiliad arall yn edrych ar a wnaeth Mr Jones gamarwain Aelodau Cynulliad wrth ateb cwestiynau am honiadau o fwlio yn Llywodraeth Cymru - honiadau sy'n dyddio'n ôl i 2014.