Nofwyr yn paratoi am ddigwyddiadau Gŵyl San Steffan

  • Cyhoeddwyd
2016Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Nofio Môr Dinbych-y-pysgod
Disgrifiad o’r llun,

Roedd mwy na 700 o bobl yn nofio yn haul Dinbych-y-pysgod y llynedd

Mae miloedd o bobl yn paratoi i gymryd rhan mewn digwyddiadau nofio y tu allan ar draws y de ar Ŵyl San Steffan.

Cymeriadau doniol yw thema'r digwyddiad yn Ninbych-y-pysgod eleni, a hynny ar ei 47fed blynedd.

Mae'r digwyddiad yng Nghefn Sidan, Caerfyrddin hefyd yn cael ei gynnal am y 32ain blynedd.

Bydd Lido Cenedlaethol Cymru ym Mhontypridd hefyd yn agor i nofwyr am yr ail flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r digwyddiad yng Nghefn Sidan yn ei 32ain blynedd

Roedd mwy na 700 o bobl yn nofio yn haul Dinbych-y-pysgod y llynedd.

Mae'r digwyddiad, sy'n cael ei drefnu gan Gymdeithas Nofio Môr Dinbych-y-pysgod, wedi casglu bron i £270,000 i elusennau dros y blynyddoedd.

Ers y cyntaf yn 1984, dim ond dwywaith mae'r digwyddiad yng Nghefn Sidan wedi cael ei ganslo - unwaith oherwydd fod olew yn y dŵr ac unwaith pan oedd y môr wedi rhewi.

Dywedodd y trefnwyr eu bod yn obeithiol am dywydd da eleni.

Mae mwy na 700 o nofwyr hefyd wedi cofrestru i fynychu Lido Pontypridd eleni - 200 yn fwy na'r llynedd.