Anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng Nghaerffili yn oriau mân fore Mercher.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 01:10 yn Rhodfa Syr Dafydd.
Dim ond un cerbyd - car Ford Fiesta lliw gwyrdd - oedd yn y gwrthdrawiad.
Fe gafodd gyrrwr y cerbyd - menyw 25 oed o ardal Croespenmaen, Caerffili - ei chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent gydag anafiadau difrifol.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â gwybodaeth amdano i ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 62 27/12/2017.