Twneli Brynglas ar frig tabl tagfeydd ffyrdd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Brynglas TunnelsFfynhonnell y llun, Geograph/Lewis Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Twneli Brynglas ger Casnewydd yw'r man gwaethaf yng Nghymru ar gyfer tagfeydd

Cafodd 30,500 o dagfeydd eu cofnodi ar ffyrdd Cymru yn 2017, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Y dagfa waethaf oedd un saith awr a 10 milltir o hyd ar yr M4 ar 27 Hydref.

Y man gwaethaf ar gyfer tagfeydd yw twneli Brynglas i gyfeiriad y gorllewin ar yr M4 ger Casnewydd, gyda chyfartaledd o fwy nag un dagfa bob diwrnod.

Yn ôl cwmni Inrix sy'n dadansoddi ffigyrau am hewlydd Cymru mae'r tagfeydd yn nhwneli Bryn-glas yn golygu cost o £14m i yrwyr, o ran yr amser sy'n cael ei golli.

Mae Inrix hefyd yn amcangyfrif fod tagfeydd wedi golygu cost o £278n i economi Cymru yn 2017

Dywedodd Dr Graham Cookson, prif economegydd Inrix: "Mae sawl peth yn gallu achosi tagfeydd, ond mae data Inrix yn dangos mai damweiniau yw'r ffactor mwyaf niferus."

Yn ôl Inrix roedd yna 84 o dagfeydd bob diwrnod ar gyfartaledd ffyrdd Cymru yn 2017.

Y tri lle gwaethaf oedd twneli Bryn-glas, cyffordd 43 o'r M4 rhwng Dwyrain Abertawe a Chastell-nedd, a chyffordd 41 o'r M4 ger Port Talbot.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r draffordd yn cael ei hadeiladu dros ddociau Casnewydd dan gynllun y llywodraeth

Mae llywodraeth Cymru am godi traffordd chwe lôn i'r de o Gasnewydd mewn ymdrech i liniaru problemau twneli Brynglas.

Ond yr wythnos diwethaf daeth i'r amlwg fod yna oedi pellach o ddwy flynedd yn y cynllun tra bod y gost wedi cynyddu i £1.3bn.

Y lleoliad gwaethaf o ran tagfeydd yn y gogledd yw'r A55 yn ardal Ewlo ar Lannau Dyfrdwy.

Yno, mae cynlluniau ar y gweill i godi ffordd osgoi newydd i'r ardal ar gost o £250m.