Gwrthod tacsi Uber i ddyn â pharlys yr ymennydd

  • Cyhoeddwyd
Ted Shiress
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Uber ymddiheuro i Mr Shiress ar Twitter

Mae dyn o Gaerdydd yn honni mai oherwydd ei anabledd y cafodd ei wrthod gan yrrwr tacsi Uber ar Nos Galan.

Yn ôl Ted Shiress, sydd â pharlys yr ymennydd ac yn defnyddio ffrâm gerdded, gyrrodd y cerbyd i ffwrdd ar ôl cais i symud yn agosach ato.

Ychwanegodd y cafodd ei ffrind a archebodd y tacsi orchymyn i dalu £4 fel dirwy am beidio defnyddio'r cerbyd.

Mae Uber wedi ymddiheuro i Mr Shiress, ac mae eu gwefan yn dweud fod ganddyn nhw bolisi o beidio "goddef unrhyw fath o ragfarn o unrhyw fath".

'Dylai hi ddim bod fel hyn'

Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010 mae hi'n anghyfreithlon i gwmni tacsi preifat wrthod cwsmer anabl, oni bai eu bod wedi cael caniatâd gan yr awdurdod trwyddedu oherwydd rhesymau meddygol i wneud hynny.

Dywedodd Mr Shiress, o ardal y Rhath, ei fod yn dychwelyd o barti yn ardal Pontcanna'r ddinas, a'i fod yn grediniol fod y gyrrwr wedi gwrthod ei gymryd oherwydd ei anabledd.

"Byddwn i ddim yn dweud fy mod yn gwbl sobor, dim yn flêr ond dim ond ychydig yn feddw fel byddai unrhyw un tua 03:00 ar Nos Galan," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae modd archebu tacsi Uber drwy ap ffon symudol

Ychwanegodd Mr Shiress ei fod yn defnyddio ei ffrâm gerdded ar y pryd.

"Roedd y tacsi wedi stopio ychydig lawr y lôn, ac fe wnaeth fy ffrind ofyn i'r gyrrwr fagio 'nôl yn ôl oherwydd fy anhawster cerdded.

"Fe wnaeth o yrru am yn ôl ond wnaeth o ddim stopio. Ro'n i jyst am fynd adre i gysgu."

Dywedodd Mr Shiress iddo lwyddo i gael tacsi Uber arall ychydig yn ddiweddarach.

"Mae yna rai gyrwyr sy'n dda iawn, ond o bryd i'w gilydd rydych yn dod ar draws rhai sydd ddim mor glên.

"O bosib fod o i wneud ag ofn rhywbeth anghyfarwydd. Rwy' wedi arfer â phethau o'r fath.

"Dwi ddim yn ddig a blin, ond ddylai hi ddim bod fel hyn," meddai.

Fe wnaeth Mr Shiress gwyno ar wefan Twitter ac fe wnaeth y cwmni ymddiheuro gan ofyn iddo anfon mwy o fanylion am y digwyddiad.

Mae BBC wedi gwneud cais i Uber am sylw.