Gwyntoedd cryfion Storm Eleanor wedi taro Cymru dros nos

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Tonnau yn taro Bae Trearddur yn ystod Storm Eleanor nos Fawrth

Aeth cannoedd o dai yn y de a'r gorllewin heb drydan am gyfnodau ddydd Mercher wedi i Storm Eleanor ddod â gwyntoedd cryfion i Gymru.

Roedd hyrddiadau o 77mya yn Abertawe dros nos, ac fe gafodd ffyrdd a phontydd eu cau mewn rhannau.

Roedd rhai rhybuddion llifogydd yn dal mewn grym nos Fercher wrth i donnau mawr daro'r arfordir.

Yn Y Barri, chwythodd to oddi ar gartref un teulu, sydd nawr yn wynebu wythnosau oddi cartref.

Fe osododd y Swyddfa Dywydd rybudd melyn am wyntoedd dros nos, oedd mewn grym tan 19:00 nos Fercher.

Ffynhonnell y llun, Frank Moore
Disgrifiad o’r llun,

Coeden wedi syrthio y tu allan i Neuadd y Dref yn y Drenewydd

Ffynhonnell y llun, @markwaun
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y tonnau yn drawiadol yn Aberystwyth fore Mercher

Mae cannoedd o dai wedi cael eu heffeithio gan doriadau i'r cyflenwad trydan dros nos a fore Mercher.

Roedd hi'n ddiwrnod prysur i beirianwyr Western Power a Scottish Power, ond does neb heb drydan bellach.

Disgrifiad,

Rhybuddion i bobl baratoi am lifogydd yn parhau dros y dyddiau nesaf, medd Deiniol Tegid o Gyfoeth Naturiol Cymru

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na lifogydd ger yr arfordir yn Niwgwl, Sir Benfro

Roedd rhybuddion llifogydd mewn grym ar gyfer cymunedau ar yr arfordir ac ar lannau afonydd ar draws y wlad, wrth i bryderon am effaith tonnau mawr a llanw uchel barhau.

Ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Mercher, dywedodd Deiniol Tegid o Gyfoeth Naturiol Cymru ei fod yn disgwyl i'r rhybuddion "barhau tan ddiwedd yr wythnos".

"Yr hyn sy'n achosi pryder i ni gyda stormydd ydy pan maen nhw'n cyd-fynd gyda llanw cymharol uchel, [gan fod] stormydd yn gallu sugno lefel y mor i fyny," meddai.

"Mae hynny'n gallu achosi pryder i gymunedau sy'n byw ar hyd yr arfordir, ac mi fydd yna rybudd o lifogydd yn parhau weddill yr wythnos yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na lanast ar y prom yn Aberystwyth

Yn ystod bore Mercher, roedd cyfyngiadau ar nifer o ffyrdd a rhai eraill ynghau oherwydd y gwyntoedd cryfion a llifogydd.

Roedd ambell i wrthdrawiad ar y ffyrdd, yn ogystal. Yn Hensol, Bro Morgannwg, cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty tua 22:00 nos Fawrth wedi adroddiadau fod coeden wedi disgyn ar gar.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan SWP_Roads

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan SWP_Roads

Achub cerddwyr mynydd

Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd un o dimau achub mynydd Eryri eu galw i chwilio am ddyn oedd ar goll ar yr Wyddfa yn ystod y nos

Mae adroddiadau hefyd o bobl yn mynd i drafferthion ar fynydd uchaf Cymru yn sgil y tywydd garw.

Mewn un achos fe gafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw i gopa'r Wyddfa am 16:50 brynhawn Mawrth, yn dilyn adroddiadau fod dyn a dynes ar goll ar y mynydd.

Er i'r tîm achub mynydd anfon 11 o wirfoddolwyr i chwilio am y bobl, daeth cadarnhad yn ddiweddarach fod y ddau eisoes wedi llwyddo i ddianc o'r mynydd yn ddiogel.

Mewn achos arall fe gafodd y tîm eu galw i chwilio am ddyn arall oedd ar goll yn ystod y nos. Fe anfonwyd saith o wirfoddolwyr i chwilio amdano, ac fe gafodd ei ddarganfod yn ddiogel cyn ei gludo i fan diogel.

Ar Fôr Iwerddon, cafodd y rhan fwyaf o wasanaethau fferi Irish Ferries, dolen allanol a Stena Line, dolen allanol rhwng Cymru ac Iwerddon wedi eu canslo.

Yn ystod y bore cafodd gwasanaethau trên rhwng Gogledd Llanrwst a Blaenau Ffestiniog eu canslo achos llifogydd, ond maen nhw bellach wedi ailddechrau.