3,000 o gartrefi yn colli pŵer mewn gwyntoedd cryfion

  • Cyhoeddwyd
tywyddFfynhonnell y llun, @ElinHafR
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ffens ei chwythu ar gar yng Nghaerdydd

Collodd bron i 3,000 o gartrefi eu cyflenwad trydan fore Iau, wrth i wyntoedd cryfion barhau ar draws y wlad.

Dywedodd Western Power Distribution mai gogledd Caerdydd gafodd ei effeithio waethaf.

Collodd 2,655 o dai yn ardaloedd Llanisien a Llysfaen eu cyflenwad, wedi i goeden ddisgyn a thorri gwifrau trydan.

Disgrifiad o’r llun,

Coeden wedi disgyn yng Nghaerdydd

Mae'r trydan wedi ei adfer i'r rhan fwyaf o dai erbyn hyn, er bod 41 o gartrefi yn parhau heb gyflenwad.

Roedd Western Power Distibution yn ffyddiog y byddai gweddill y cyflenwadau wedi eu hadfer erbyn canol y prynhawn.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llifogydd ar rai ffyrdd yn Aberteifi

Daw'r gwyntoedd yn dilyn Storm Eleanor achosodd lifogydd a difrod mewn rhai ardaloedd ddydd Iau.

Effaith y gwyntoedd:

  • Un lôn ar Bont Hafren ar yr M48 ynghau

  • Hediad Ryanair o Tenerife i Faes Awyr Caerdydd wedi gorfod glanio yn Birmingham

  • Irish Ferries a Stenna Line wedi gohirio neu ganslo gwasanaethau rhwng Cymru ac Iwerddon

  • Promenâd Hen Golwyn ynghau

Ar ol bod ynghau yn gynharach, mae Pont Cleddau ger Penfro bellach wedi ailagor, tra bod Ffordd Pont-y-Cob yn Nhregŵyr ger Abertawe ynghau oherwydd llifogydd.

Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd yn parhau tan 19:00, a gallwch weld y rhybuddion llifogydd diweddaraf ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol.