Gwasael yng Nghonwy i ddeffro’r coed o'u gaeafgwsg

  • Cyhoeddwyd
Gwasael
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwasael yn cael ei berfformio yn y berllan hynafol ger waliau Conwy

Mae grŵp o bobl wedi bod yn taro sosbenni a drymiau i wneud cymaint o sŵn â phosib mewn digwyddiad yng Nghonwy nos Sadwrn.

Roedd Grŵp Perllan Gymunedol Conwy yn perfformio'r hyn sy'n cael ei alw'n gwasael yn y berllan hynafol ger waliau'r dref.

Cân hynafol yw hi, sy'n cael ei chanu i gyfeiliant sosbenni a drymiau'n cael eu curo.

Mae'n hen draddodiad, a'r nod yw deffro'r coed ffrwythau o'u gaeafgwsg er mwyn sicrhau cnwd da.

Mae'r gwasael yn cael ei berfformio ledled y DU hyd heddiw, ond mae'n fwyaf cyffredin yn ne-orllewin Lloegr.