Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 4-0 Torquay

  • Cyhoeddwyd
Chris HolroydFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Mae hatric Chris Holroyd yn golygu bod Wrecsam yn codi i bedwerydd yn y gynghrair

Fe wnaeth Chris Holroyd sgorio hatric wrth i Wrecsam roi crasfa i Torquay ac atgyfnerthu eu gobeithion o gael dyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol.

Aeth y tîm cartref ar y blaen o fewn 10 munud gyda Holroyd yn penio cic gornel Marcus Kelly i'r rhwyd.

Fe wnaeth y Dreigiau ddyblu eu mantais wedi hanner awr trwy beniad arall gan Manny Smith, cyn i Holroyd ychwanegu trydedd cyn hanner amser.

Llwyddodd Holroyd i gwblhau ei hatric o'r smotyn yn y munudau olaf wedi i'r ymwelwyr lawio'r bêl yn y cwrt cosbi.