Cyngor Blaenau Gwent i drafod lefelau salwch uchel
- Cyhoeddwyd
Bydd cyngor yn trafod sut mae delio â'r nifer fawr o ddiwrnodau sy'n cael eu colli o'r gwaith oherwydd salwch.
Ar gyfartaledd mae staff Cyngor Blaenau Gwent yn absennol am 12.5 diwrnod y flwyddyn - un o'r cyfraddau uchaf ymhlith cynghorau Cymru.
Ddydd Llun bydd pwyllgor craffu'r cyngor yn ystyried beth ddylid ei wneud i ddelio â'r mater.
Mae un adroddiad yn awgrymu y dylai'r pwyllgor ymweld â chynghorau a sefydliadau sydd â record isel o absenoldeb.
Mae'r adroddiad yn cydnabod fod lefel uchel o absenoldeb yn cael effaith andwyol ar ei allu i weithredu'n effeithiol, ac yn nodi bod presenoldeb yn y gwaith yn un o'i flaenoriaethau.
Mae'r cyngor wedi cael cais am ymateb.