Traphont Pontcysyllte ar gau i gerddwyr am fis

  • Cyhoeddwyd
traphont PontcysyllteFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae traphont Pontcysyllte yn un o'r prif atyniadau i ymwelwyr yn y gogledd

Mae disgwyl i draphont Pontcysyllte fod ar gau am fis i gerddwyr wrth i waith cynnal a chadw ddigwydd, gyda chyfyngiadau hefyd ar gyfer cychod.

Mae'r draphont ac 11 milltir o gamlas Llangollen yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Mae Cyngor Wrecsam yn dweud bod y cyfyngiadau yn hanfodol am resymau diogelwch wrth i'r gwaith gael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.

Yn ystod haf 2017 roedd pryderon nad oedd yr ardal yn elwa digon o'r atyniad, ac yn ystod y misoedd diwethaf mae nifer o gynlluniau ar gyfer datblygu wedi bod yn cael eu trafod.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwneud defnydd o hen safleoedd diwydiannol o gwmpas y draphont, creu canolfan ymwelwyr, llwybr troed drwy'r coed a chyfleoedd ar gyfer gwersylla.

Ffynhonnell y llun, Adrian Pingstone