Alex Cuthbert i adael y Gleision ar ddiwedd y tymor

  • Cyhoeddwyd
Alex CuthbertFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Bydd asgellwr Cymru, Alex Cuthbert yn gadael y Gleision pan fydd ei gytundeb yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Mae'n golygu na fydd Cuthbert, 27, yn gymwys i chwarae dros y tîm cenedlaethol o haf 2018 ymlaen oni bai ei fod yn ymuno ag un o ranbarthau eraill Cymru.

Mae gan yr asgellwr 47 cap dros ei wlad, ac mae wedi sgorio 16 cais yn y cyfnod hwnnw gan gynnwys yr un a sicrhaodd y Gamp Lawn yn 2012, a dwy i drechu Lloegr ac ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013.

Mae'r Gleision eisoes wedi dweud nad ydyn nhw'n ystyried arwyddo asgellwr arall Cymru, George North, fydd yn gadael Northampton ar ddiwedd y tymor.

Yn hytrach mae'n debyg fod y rhanbarth am flaenoriaethu arwyddo chwaraewyr rheng flaen ar gyfer y tymor nesaf o ystyried fod y bachwr Matthew Rees a'r prop Gethin Jenkins yn 37 oed, a bod y prop Taufa'ao Filise yn 40.

Y Scarlets, fel cyn-ranbarth North, fyddai â'r dewis cyntaf i'w ail-arwyddo, ond mae eu hyfforddwr Wayne Pivac wedi awgrymu nad ydyn nhw'n debygol o wneud, gan agor y drws i'r Gweilch neu'r Dreigiau geisio sicrhau ei lofnod.