Rhagor o swyddi ffatri Vauxhall yn y fantol

  • Cyhoeddwyd
ceirFfynhonnell y llun, Vauxhall

Mae cwmni ceir Vauxhall wedi cyhoeddi y bydd 250 o swyddi yn cael eu colli yn eu ffatri yn Ellesmere Port.

Fe gyhoeddodd y cwmni ym mis Hydref bod 400 o swyddi yn y fantol, ac fe fydd y 250 o swyddi yn ychwanegol i hyn.

Y gred yw bod tua 300 o weithwyr ffatri Ellesmere Port yn byw yng Nghymru.

Mae'r ganolfan yn cynhyrchu'r Astra, ac mae'r cwmni wedi dweud wrth undeb Unite fod angen rhagor o ymddiswyddiadau gwirfoddol.

Dywed y cwmni y bydd cyfnod ymgynghori 45 diwrnod yn dechrau, gan ychwanegu eu bod wedi ymrwymo i sicrhau fod nifer y swyddi sy'n cael eu colli yn cael ei gadw'n isel.

Mae Vauxhall yn cyflogi tua 4,500 o bobl yn y DU, gan gynnwys tua 1,800 yn Ellesmere Port.