Pryder am swyddi yn y diwydiant ceir

  • Cyhoeddwyd
Vauxhall Ellesmere PortFfynhonnell y llun, Vauxhall
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o Gymry yn gweithio yn ffatri Vauxhall yn Ellesmere Port

Mae'r cwmni sy'n berchen ar Peugeot, Grŵp PSA o Ffrainc, wedi cadarnhau eu bod wedi prynu cangen Ewropeaidd cwmni General Motors.

Yn sgil hynny, mae pryderon am safleoedd Vauxhall ym Mhrydain.

Mae Vauxhall yn cyflogi tua 4,500 o bobl yn eu safleoedd yn Luton ac Ellesmere Port ar Lannau Mersi.

Credir bod tua 300 o weithwyr ffatri Ellesmere Port yn byw yng Nghymru.

Yn ôl Len McCluskey o undeb Unite dylai unrhyw gytundeb i werthu Vauxhall gynnwys ymrwymiad hirdymor i gadw'r ffatrïoedd ym Mhrydain.

'Anesmwyth'

Mae AS Wrecsam Ian Lucas yn dweud ei fod yn teimlo yn "anesmwyth" am y newid dwylo.

"Mae angen i'r llywodraeth barhau i ddadlau'r achos dros fuddsoddi yn y sector geir," meddai ar raglen Good Morning Wales fore Llun.

"Mae'n effeithio ar swyddi yng ngogledd-ddwyrain Cymru," meddai, gan gyfeirio at y rhai sy'n gweithio yn Ellesmere Port a'r cwmnïau yng ngogledd Cymru sy'n rhan o gadwyn gyflenwi.