Dan Lydiate i fethu'r Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd

Bydd blaen asgellwr Cymru, Dan Lydiate yn absennol o'r tîm cenedlaethol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, yn dilyn llawdriniaeth frys ar ei fraich.
Fe ddioddefodd Lydiate anafiadau yn ystod buddugoliaeth y Gweilch yn erbyn y Dreigiau yn eu gêm yng nghystadleuaeth y Pro 14 nos galan.
Ni fydd Lydiate nawr ar gael am weddill y tymor.
Dywedodd Swyddog Meddygol y Gweilch, Chris Towers: "Ar ôl siarad gyda meddygon a derbyn cyngor arbenigol, rydym wedi penderfynu mai'r peth gorau i wneud ydi gyrru Dan am y driniaeth hon."
Mae Cymru eisoes yn wynebu'r Chwe Gwlad heb eu blaen asgellwr Sam Warburton, gan ei fod yntau yn gwella o anaf.