Cymru'n cynghori gwledydd eraill y DU ar roi organau
- Cyhoeddwyd
Mae wedi dod i'r amlwg bod swyddogion iechyd yng Nghymru yn cynghori llywodraethau Lloegr a'r Alban ar symud at system o ganiatâd tybiedig o roi organau.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton wedi cadarnhau ei fod mewn cysylltiad cyson gyda chyd-weithwyr mewn gwledydd eraill ynglŷn â'u cynlluniau.
Fe wnaeth y ddeddf yng Nghymru newid dwy flynedd yn ôl, gan gymryd yn ganiataol fod pob oedolyn yn fodlon rhoi organ wedi iddyn nhw farw, os nad oedden nhw wedi dweud fel arall.
Mae Lloegr a'r Alban nawr yn edrych ar system debyg, mewn ymgyrch i geisio cynyddu nifer y bobl sy'n rhoi organau.
Yn ôl ffigyrau'r Gwasanaeth Iechyd mae 6,500 o bobl ar hyd y DU ar restr aros trawsblaniad, gan gynnwys 242 o Gymru.
Dywedodd Dr Atherton: "Rydym wedi cael trafodaethau gyda'r ddwy wlad [Lloegr a'r Alban], dwi'n siarad yn aml gyda phrif swyddogion meddygol y ddwy wlad.
"Mae'n wych i gydweithio gyda'n cydweithwyr yng ngwledydd eraill y DU ac rydyn ni'n falch iawn bod Cymru'n arwain ar hyn."
'Diolch o waelod calon'
Fe gafodd Ellie Lacey o Gaerdydd iau newydd y llynedd ar ôl cael ei chymryd yn wael.
Yn dilyn ei phrofiad mae hi'n benderfynol o weld gweddill y DU yn dilyn esiampl Cymru.
Dywedodd: "Bydde' hi'n wych os bydde' gweddill y DU yn dilyn Cymru, ond mae hi mor bwysig i gynnal y trafodaethau, er mwyn i'ch teulu wybod beth i'w wneud mewn argyfwng."
Cafodd Ellie organ gan ddynes yn ei 60au fu farw yn dilyn anaf i'w hymennydd.
Chwe mis wedi ei llawdriniaeth, cipiodd Ellie y fedal aur yn y Gemau Trawsblaniadau yn y ras 800 metr, ac ysgrifennodd at deulu'r ddynes roddodd ei horgan:
"Diolch o waelod calon am sicrhau bod ei dymuniad yn cael ei wireddu ac am ganiatáu i mi dderbyn y trawsblaniad. Fy arwr."
Yn dilyn newid y ddeddf mae gan deulu person sy'n marw yr hawl i wrthwynebu bod organau'n cael eu defnyddio.
Yn 2016-17 roedd 21 achos yng Nghymru ble wnaeth teuluoedd wrthod caniatâd i organau gael eu defnyddio, neu fe wrthodon nhw gefnogi'r caniatâd tybiedig.
Ym mis Tachwedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru lansio ymgyrch i annog pobl i ddweud wrth eu teuluoedd am eu dymuniadau wedi iddyn nhw farw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd7 Medi 2017